HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

"Ystafelloedd Te” o amgylch Yr Wyddfa 13 Gorffennaf

Mae llwybrau cerdded ym mynyddoedd yr Himalaya yn frith gyda "tea rooms".
Ond faint sy'n ymwybodol o'r gadwyn o ystafelloedd te o amgylch Yr Wyddfa - Gorffwysfa, Pen y Ceunant, Ty Mawr a Bethania?  Syniad cyn-warden ar yr Wyddfa Sam Roberts oedd eu cysylltu gyda'i gilydd fel 'Llwybr yr Ystafelloedd Te' o amgylch y mynydd.

Roedd y daith ar Orffennaf 13 y gyntaf o bedair a fydd, maes o law, yn amgylchu'r Wyddfa.  Dau ddwsin oedd yn disgwyl Bws y Sherpa yng Nghyfnewidfa Llanberis - sioc fawr i berchennog y cwmni bysys oedd yn gyrru'r cerbyd!

Felly i fyny'r bwlch at Ben y Pas ac ystafell te'r "YHA" yng Ngorffwysfa a 'phaned, cacen a chyfle i weld yr arddangosfa barhaol, ddwyieithog am hanes mynydda'r ardal.  Yn anffodus roedd rhaid i un aelod ein gadael - dim ond yna am y daith bws a'r 'paned!

Mae 'Llwybr Peris' yn croesi'r tir gyda hawl crwydro drosto rhwng priffordd yr A4086 a llethrau'r mynydd.  Mae'r llwybr, sy'n weladwy ar y ddaear ar hyd mwyafrif y daith, wedi'i farcio gyda chyfres o stanciau.  Ond yn anffodus o dro i dro roedd tyfiant y rhedyn yn cuddio llawer o'r stanciau a'r llwybr.

Mae'r llwybr yn dilyn lein y peilonau trydan a oedd yn cario cyflenwad trydan o Gwm Dyli i Chwarel Dinorwig ers 1905.  Gellir gweld un o sylfeini'r peilonau metal gwreiddiol.  [Y tu allan i'r Mynydd Gwefru yn Llanberis gellir gweld un o olwynion Pelton gwreiddiol Cwm Dyli.]  Ger Pont y Gromlech mae'r llwybr yn mynd heibio adeilad newydd sy'n cynnwys offer cynhyrchu trydan dwr.  Yn agosach i bentref Nant Peris roedd yn bosib gweld creithiau'r lonydd sy'n arwain i fyny at Gwm Gafr, Cwm Dudodyn a Chwm Padrig er mwyn defnyddio dŵr y nentydd o gyfeiriad y Glyderau ar gyfer cynhyrchu trydan dŵr.  (Ers talwm galwyd Nant Peris yn 'Llanberis', wedyn 'Old Llanberis', a heddiw ar lafar, 'Nant').

Mae'r llwybr yn crwydro trwy adfeilion bythynnod, beudai, waliau a chaeau hen anheddle -  efallai hafotai cyn y chwyldro diwydiannol.  Ar ôl cerdded trwy goedwig hynafol mae'r llwybr yn disgyn at lan yr afon Peris.  Roedd un o'r aelodau yn medru miglo dros y bont troed a dal bws cynnar adra!

Cyn ymuno â'r briffordd aethom heibio'r hen waith copr.  Ymlaen wedyn ar y pafin ar lan Llyn Peris a chyfle i astudio effaith gwaith trydan dwr Dinorwig ar y dirwedd.  Wedyn wrth i'r gylchdaith droi trwy Goed Victoria penderfynodd nifer dorri'r daith yn fyr a pharhau'n syth ymlaen i'r pentref.

Ond aeth dwsin trwy'r goedwig at ystafell de Pen y Ceunant.  Roedd Steffan yn barod i'n croesawu gyda digonedd o de neu goffi a phlatiau'n llawn o fara brith.  Dwsin oedd wedi cwblhau rhan gyntaf y gylchdaith.  Efallai y bydd gwobr yn eu disgwyl maes o law?

Adroddiad gan Clive a Rhiannon James


Lluniau gan Gwenan ar FLICKR