HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crimpiau a Chreigiau Gleision 13 Chwefror

Tros y tri mis diwethaf bu diwrnod sych yn eithriadol o brin. Ond roedd addewid o ddiwrnod sych gyda gwynt main o’r dwyrain. Daeth chwech i ymuno gyda mi ym maes parcio tu cefn i siop Joe Brown yng Nghapel Curig.

Wedi gadael y maes parcio a chroesi’r A5, gan adael prysurdeb y pentref, buan iawn y cawsom yr anialdir gwyllt yma i ni ein hunain. Ar y mynyddoedd eu hunain, dim ond dau arall a welsom trwy’r dydd! Wedi dringo’r Crimpiau, Y Graig Wen, Y Graiglwyn a Chreigiau Gleision, doedd neb yn siwr pryd roeddem yn esgyn nac yn disgyn! Roedd hi’n sych ond yn eithriadol o oer ar y copa.

Wrth ddisgyn i gyfeiriad y goedwig uwchben llyn Crafnant, cododd par o rugieir yn swnllyd, ac er bod y tirwedd yn wlyb fel y gellid disgwyl, roedd y cerdded erbyn hyn y gymharol rwydd.

Wedi mynd trwy’r goedwig at lan llyn Crafnant, rhaid oedd esgyn eto trwy Gwm Glas Crafnant, cyn disgyn i gyfeiriad  Capel Curig a’r maes parcio.

Diolch am gwmni Manon, Morfudd, Dilys, Haf, Janet a John Arthur, gyda llawer o dynnu coes ar hyd y daith. Lwcus bod gen i groen fel eliffant!

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Haf ar FLICKR