HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tal-y-bont i’r Bermo 12 Hydref

Taith Bwlch y Rhiwgyr

Daeth 13 i'r Bermo mewn pryd i ddal tren 10:01 i Dalybont, ryw chwe munud o daith, a chyfarfod 12 arall oedd wedi penderfynu dechrau'r daith yno. Cerdded ger glan yr afon Sgethin a chodi rhyw 500 troedfedd at Lety Lloegr ac ymuno ag un o hen lwybrau'r porthmyn o'r glannau i Bontddu. Croesi'r afon dros Bont Fadog, a adeiladwyd yn 1762 yn ôl yr arysgrif arni.

Codi'n raddol wedyn a chael golygfeydd ardderchog o Benrhyn Llŷn a bryniau Moelfre, Diffwys a'r Llethr yn glir i'r cyfeiriad arall. Cael paned ychydig cyn Bwlch y Rhiwgyr, sydd rhyw 1520 troedfedd uwchlaw'r môr, a chael ein golwg gyntaf o'r Fawddach a Chadair Idris tu hwnt wrth fynd trwy y giât. Yr ychydig gymylau wedi clirio erbyn hyn a haul braf yn ein cyfarch wrth i ni wyro i'r dde i gyfeiriad y Bermo yn lle dilyn llwybr y pothmyn i’r chwith i'r Bontddu. Disgyn am filltir a hanner cyn codi'n raddol i Fwlch y Llan (1130 troedfedd), a oedd yn cysylltu trigolion y Bontddu ag Eglwys Llanaber, gan mai hon oedd eu Heglwys Plwy. Cael ein cinio yno yn yr heulwen, ychydig islaw y bwlch.

Taith hawdd i lawr heibio Cell Fawr, a heibio i'r creigiau dringo ar ochr y Garn a chyrraedd uwchlaw'r Bermo yn Ninas Oleu, y tir cyntaf a drosglwyddwyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 gan foneddiges leol, Fanny Talbot. Ar ôl tynnu llun, a syllu ar dref y Bermo islaw, ymlwybrodd y criw o 25 drwy'r hen Bermo gyda'i amrywiaeth o dai ar y llechwedd creigiog uwchlaw'r dref a chael paned o de haeddiannol iawn yng nghaffi Davy Jones's Locker ar ben y cei ar ddiwedd taith o dros 8 milltir.

Diolch i bawb am gwmni difyr a llawen: Llŷr, y ddwy Nia o Fôn, Rhys Llwyd, Euros, Dilys ac Aneurin, Eryl ac Angharad, Olwen, John Arthur, Iolo ap, Gwil a Gwenan, Eirlys, Gwyn Chwilog, Anet, Arwyn, Elen, John a Carys, Clive a Rhiannon ac Emyr. Gobeithio i bawb fwynhau cymaint ag a wnes i!

Adroddiad Gareth Tilsley

Lluniau gan Iolo ap Gwynn ac Aneurin Phillips ar FLICKR