HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen y Gogarth 10 Chwefror

Cyngreawdwr Fynydd neu Pen y Gogarth yn y Gymraeg; Horma Heva yn iaith y Gogledd; Orme yn y Saesneg.

Pa bynnag enw rydych yn ddewis does dim dwywaith mai hwn yw’r penrhyn calchfaen mwyaf trawiadol yn ynysoedd Prydain.  Bwriad y daith oedd ymweld â’r mannau mwyaf diddorol ar y penrhyn.

Cychwyn y daith o Ben y Morfa ar hyd llwybr y mynach i gyfeiriad llwyfandir y copa; cyfle i sylwi ar olion Plas yr Esgob.  Mae’n debyg mai rhodd oedd hwn i’r Esgob Anian o Fangor gan Edward 1af am iddo fedyddio ei fab.  Daeth cyfiawnder dros gan mlynedd yn ddiweddarach pan losgwyd y lle i’r llawr gan Owain Glyndwr!

Seibiant ar ymyl y llwyfandir i edmygu’r  olygfa.  Castell Deganwy, sef cadarnle Maelgwn Gwynedd, i’w weld yn glir ac yn y pellter Arenig Fawr.  Heibio’r palmentydd calchfaen, lle mae llawer o blanhigion difyr yn tyfu mewn holltau yn y graig.  Sesiwn tynnu lluniau wrth y meini mawrion, tystiolaeth fod y penrhyn wedi ei orchuddio gan rew ar un cyfnod.

Dringo i’r copa i gael paned.  Yn 1826 adeiladwyd gorsaf semaphore gan Awdurdod Porthladd Lerpwl, un o unarddeg ar hyd arfordir y gogledd i drosglwyddo gwybodaeth am y llongau o Gaergybi i Lerpwl.  Ymlaen wedyn i weld y gromlech Llety’r Filiast, llawer ohoni wedi dirywio oherwydd y tywydd a’r maen capan wedi ei dorri’n dri.  Dipyn llai o ran maint na chromlechi Pen Llyn mae’n debyg!

Y cymal olaf yn ein harwain i gaer Pen Dinas i weld y Graig Siglo neu Grud Sant Tudno.  Yn ôl y chwedl, os oedd rhywun yn cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd rhaid iddo neidio ar y graig.  Os oedd y graig yn siglo yna roedd yn ddieuog ond os nad oedd y graig yn symud yna roedd y person anffortunus yn cael ei luchio i abergofiant dros y dibyn.  Mentrodd dipyn o’r aelodau ar y graig a phawb yn gwneud iddi siglo ond pan ddaeth yn dro John Arthur fe lithrodd oddi arni ac ar ei ben ôl i lwyn o ddrain.  Euog dros ben!

Yn ôl i’r man cychwyn drwy erddi Heulfre.  Dyluniwyd y gerddi gwreiddiol gan Henry Pochin a aeth ymlaen wedyn i ddylunio Gerddi  Bodnant.  Ar hyd llwybr y methedig a heibio’r meinciau coffa.  Addas iawn i griw dydd Mercher, medda rhywun!

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth draw i’r Creuddyn a chroeso arbennig i Heli ar ei thaith gyntaf ar ddydd Mercher.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Haf ar FLICKR