HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pig Idris, Moel Ddu, ac uwchben Llyn Gelli Gain i Foel Oernant 6 Ionawr



Daeth ugain o aelodau at ei gilydd ym Mhenystryd, i gerdded y bryniau i’r de o Gwm Prysor, uwchben Trawsfynydd.  Roeddem yn ffodus dros ben i gael diwrnod sych, gydag ambell gyfnod o heulwen hyd yn oed, o ystyried pa mor wlyb oedd y tywydd yn ystod gweddill yr wythnos.  Hefyd roedd hi’n syndod mor sych oedd hi o dan draed trwy’r rhan fwyaf o’n taith.

Mae’r bryniau yma’n rhan o hen ardal tanio gynnau - sefydlwyd pentref gwyliau Rhiw Goch ar hen safle’r fyddin.  Sefydlwyd yr ardal danio yn ystod rhyfel y Boer - roedd y fyddin yn credu fod y bryniau yma’n debyg iawn i’r ardaloedd yn Ne Affrica lle roeddynt yn ymladd yn erbyn y Boers.  Defnyddiwyd yr ardal gan y fyddin tan 1959 ac mae llawer o olion ar ôl ers y cyfnod.

Cyn i’r Prydeinwyr ddod yma, roedd y Rhufeiniaid yn teithio trwy’r ardal ar Sarn Helen, sydd i’w gweld o hyd yn ymyl fferm Penystryd.

Cawsom ddechrau i fyny’r hen ffordd tuag at Lyn Gelli Gain cyn taro ar draws gwlad at gopa Pig Idris.  Ar hyd yr esgair wedyn, gyda golygfeydd gwych tuag at y Rhinogydd a Llyn Trawsfynydd, i gyrraedd Moel Ddu.  Ymlaen dros Graiglaseithin i Foel Oernant, yn y niwl yn anffodus, ac wedyn i lawr i’r ffordd i gael cinio.

Cyn dychwelyd i’r ceir, galw ar Porius yn ei fedd.  Mae wedi bod yno ers y 5ed ganrif, mae’n debyg.  Ar ei garreg fedd, sydd nawr yn yr Amgueddfa Genedlaethol, roedd yr ysgrif:

PORIUS HIC TUMULO IACIT HOMO PLANUS FUIT

"Porius  Gorweddai yn y pentwr cerrig yma  Roedd yn ddyn plaen."

Credir mai ystyr hwn yw ei fod wedi colli ei drwyn trwy ryw anffawd neu trwy’r gwahanglwyf, felly roedd ei wyneb yn fflat.

Yn anffodus nid oedd unrhyw le cyfleus ar agor i ni gael y paned arferol, felly aeth pawb ar wasgar ar ôl y daith.

Margaret, Nia, Bedwyr, Sioned, Haf, John Parry (x2), Arwel, John Arthur, Gwilym, Angharad, Olwen, Jane, Raymond, Dilys, Aneurin, Gwyn, Myrfyn, Elen(Huws), Dafydd – a phwy arall oedd yno, os gwelwch yn dda?

Adroddiad gan Raymond

Lluniau gan Aneurin, Raymond ag Haf ar FLICKR