HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Craig y Clipiau 5 Mehefin



Bore poeth a heulog arall yn Nhanygrisiau - angen glaw, cymylau o lwch ym mhobman. 9 am ddringo felly anelu am Graig y Clipiau gan obeithio fod peth awel yn uchel i fyny. Chwysu fyny trwy'r tomeni llechi a cael diwrnod da o ddringo. Nifer da o ddringfeydd a phawb yn arwain fel bo'r angen. Diolch i bawb. 

Y criw oedd: Gareth Wyn, Gareth Everett, Gareth Taicynhauaf, Janet, Sian Port, Eifion, Chris, Manon a minnau, Myfyr.

o.n. Cafwyd ymddangosiad impromtu  gan y dringwr mawr o Gorwen i'n rhoi ar ben ffordd. Diolch John.

Adroddiad gan Myfyr


Lluniau gan Myfyr ar FLICKR