HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Eilio o Fwlch y Groes 4 Mehefin

Taith debyg i daith dydd Mercher oedd cais Eryl, felly dyma benderfynu ar gylchdaith Moel Eilio, tri chopa heb fod yn rhy serth nag yn rhy hir.  Erbyn deg o’r gloch roedd deunaw ohonom wedi cyrraedd y chwarel wrth Fwlch y Groes ac i ffwrdd a ni am y copa cyntaf.  Roedd y gwres yn eitha llethol ar y ffordd i fyny Moel Eilio, a sicrhaodd pla o wybed mân nad oedd ar neb fawr o awydd aros yn hir ar y copa.  Roedd petha yn gwella o ran y gwres wrth fynd dros Foel Gron a Foel Goch a chafwyd seibiant (di-wybed) am ginio chydig uwchben Bwlch Maesgwm.  O’r bwlch roedd dilyn y llwybr a’r lôn drol oddi  tan Gwm Dwythwch yn ôl at y ceir yn ddigon rhwydd.

Doedd hi ond canol pnawn arnom yn cyrraedd yn ôl ac ar gyngor Clive anelodd y rhan fwyaf ohonom am y dafarn agosaf i ddi-sychedu a rhoi tipyn o hylif yn ôl yn y corff.

Y deunaw oedd Iona, Sioned Llew, Gareth Tilsley, Gareth a Gaenor, Dwynwen, Gerallt (ar ei daith gyntaf ers torri ei goes), Chris a Hilary, Edward, Eryl ac Angharad, Rhiannon a Clive, Alun Caergybi, John Arthur, Gwyn Chwilog a finna, Anet.

Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Sioned ar FLICKR