HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Talybont i Bermo 2 Gorffennaf


Y cwmni - Eryl ac Angharad, Jane (Penmachno), Bruce Lane, Anet, Gwen (Chwilog), Gwilym Jackson, Gwyn (Chwilog), Gwyn (Llanrwst), Iolyn ac Eirlys.

Ar fore braidd yn gymylog ond sych, cychwynodd deg o’r  aelodau uchod i fyny o Dalybont, gan ddilyn afon Ysgethin am Bont Fadog, yr hon y byddai’r porthmyn yn ei chroesi ar eu taith tua Lloegr. Dilynwyd llwybrau ffermydd wedyn am fferm Eithinfynydd, pryd y cafwyd galwad ffôn gan aelod arall oedd wedi cyrraedd yn hwyr ond heb adael i’r arweinydd wybod ei fod ef/hi’n dod, ac a oedd  wedi ceisio ein dilyn ond wedi cymryd y llwybr anghywir ar ôl Pont Fadog. Bu sawl sgwrs ffôn a bu i’r deg aelod arall sefyll mewn rhes ar ben hen gaer, Pen Dinas, yn chwifio eu ffyn cerdded yn yr awyr gydag un aelod yn gwisgo ei gôt felen lachar i geisio tynnu sylw y “ddafad golledig”.  Aeth naw aelod ymlaen i weld rhyfeddod Carneddau Hengwm (oddeutu 3,000 CC) a dau  gylch cerrig cyfagos (oddeutu 2,000CC mae’n debyg).  Aeth yr un aelod arall i chwilio am y “ddafad golledig” a  da  yw gallu dweud erbyn inni gyrraedd olion y gwaith mango (“manganese”)  bu inni ail-gyfarfod gyda’r un aelod arall oedd erbyn hyn wedi cael hyd i’r “ddafad golledig”. Fel pob dameg arall, mae gwers yn y ddameg hon hefyd; cofiwch gysylltu gyda’r arweinydd cyn mynd ar unrhyw daith! Bu llawer o dynnu coes am weddill y dydd!

Dilyn y gwaith mango wedyn hyd nes oeddem uwchben Llanaber, gan ddilyn y llwybr i lawr am sbel cyn dringo eto er mwyn cysylltu gyda llwybr Taith Ardudwy sydd yn mynd heibio Gellfawr a Gellfechan ac yna  i lawr am Bermo. Erbyn diwedd y daith ’roedd yr haul wedi dod allan.  Cael paned a chacen yn y caffi ac ambell un yn cael cyfle i siopa ychydig tra ’roedd eraill yn cael cyfle i fwynhau gwrando ar gerddoriaeth canu gwlad oedd yn digwydd bod ymlaen, cyn dal y bws yn ôl am Dalybont.
Diolch i bawb wnaeth ddod ar y daith a’i wneud yn ddiwrnod mor hwyliog.

Adroddiad gan Eirlys

Lluniau gan Eirlys ar FLICKR