HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn ac Elidir Fawr 2 Ebrill




Deg ohonom yn cyfarfod yn y maes parcio yn Nant Peris gyda'r glaw yn syrthio yn gadarn ond gydag ambell i ddaroganwr tywydd (rhan amser) yn gaddo i'r tywydd wella at y prynhawn i ffwrdd a ni am y topiau. Codi yn serth i fyny ochor Afon Las a chael paned sydyn tra bod dipyn o gysgod ar gael wrth ochor graig gyfleus yng Nghwm Padrig. Ymlaen at Llyn y Cŵn ag i fyny'r Garn gyda'r gwynt yn chwythu yn gryf erbyn i ni gyrraedd y copa.

I lawr a ni at y bwlch ac ar ôl trafodaeth sydyn fe benderfynwyd pewidio â chyboli mynd at gopa Foel Goch ond i gymryd y llwybr isaf i osgoi'r gwynt cryf. Cinio sydyn yn lle eitha’ cysgodol gyda golygfeydd dros ac ar hyd Nant Ffrancon at Pen Yr Ole Wen a Tryfan. Pawb yn oeri yn sydyn felly cychwyn heb ddim llawer o oedi at gopa Elidir Fawr, ar hyd y grib ac i lawr at Elidir Fach. Y gwynt yn hyrddio yn gryf iawn erbyn i ni gyrraedd copa Elidir Fach ac ambell i un yn cael trafferth cadw ei thraed. Pawb yn falch i gyrraedd y lôn at dop y chwarel a chael dipyn o gysgod o'r gwynt.

Gyda'r glaw yn dechrau arafu a'r mynydd yn cysgodi ni dipyn o'r gwynt ymlaen a ni trwy’r chwarel wrth ochor hoel yr hen weithfeydd, tomenni wast llechi, y tyllau mawr gyda dringfeydd enwog (anodd credu bod hi'n bosib eu dringo) ac wedyn ar hyd llwybr distaw i ddod allan wrth Fron uwchben Nant Peris. Mewn ddim amser roeddem yn ôl yn Nant Peris ac i mewn i dafarn Ty'n Llan am ddiod-offrwm haeddiannol.

Diolch i bawb am eu cwmni ac am yr hwyl dda er gwaethaf y tywydd.

Adroddiad Alun Hughes

Lluniau gan Sioned ac Alun ar FLICKR