HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 1 Ionawr



Yn ôl y rhagolygon, diwrnod cymysglyd oedd hi i fod - gwynt yn cryfhau yn ystod y dydd i dros 50 mph, ac efallai troi'n wlyb. A dipyn o eira a rhew o dan draed. 

Mentrodd 9 aelod o'r Clwb allan - a'r her gyntaf oed dod o hyd i le parcio ym Mhen y Pas.  Ambell un o'r de wedi gosod ei gloc larwm yn rhy fuan, ac wedi bod i'r copa ac i lawr erbyn yr oedd pawb arall wedi cyrraedd!

Rhagolygon ddim yn wych ar gyfer y Grib Goch, felly taith hamddenol i fyny Llwybr y PyG fuo hi.  Yr eira yn rhyfeddol o galed dan draed uwch Llyn Glaslyn.  Y gwynt yn ein taro ger y rheilffordd ym Mwlch Glas, ac yn chwipio'r eira rhydd i'n gwynebau - tywydd gaeaf go iawn....  Cwffio'r gwynt wedyn i gyrraedd y pwynt trig, cyn cael cinio sydyn yng nghysgod Hafod Eryri (oes darnau ohoni'n dod yn rhydd??).  

Ein nifer yn cynyddu i 11 cyn cychwyn i lawr - yr un llwybr.  Cramponau yn helpu!  Ger Bwlch Moch, rhai ohonom yn gadael y grwp i ymateb i alwad Tim Achub Llanberis (nifer o ddigwyddiadau ar Grib Goch - http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35213471 ).

Gweddill y grwp ymlaen am Ben y Pas - ond siom i weld bod y caffi wedi cau!

Hanes gan Gwyn Roberts

Lluniau gan Gerallt a Gwyn ar FLICKR