Crib Nantlle 28 Mawrth

        
        Roedd  rhagolygon  y  tywydd ar gyfer diwrnod taith Crib  Nantlle yn addo gwyntoedd cryf, glaw yn y bore ac ysbeidiau heulog a chawodydd  yn y prynhawn! Felly roedd y glaw ym maes parcio Rhyd Ddu yn y bore  yn ddisgwyliedig. Er gwaethaf y tywydd,  roedd  Cemlyn, Sioned, Rhodri,  Bruce,  Eryl, Gareth Wyn, Dewi(o’r de),  Myfyr, Sian Port, Gwyn (Chwilog), John Parry,Rhys, Huw (o Ben Llŷn ar ei daith  cyntaf hefo’r clwb), Iolo a minnau wedi troi allan ac yn barod i fentro. 
        
        Wrth ddringo’n  serth  i gopa’r Garn roeddem yn ffodus i gael rhywfaint o gysgod rhag y gwynt ac fe  fanteisiwyd ar y cyfle i gael paned sydyn yng nghysgod y wal cyn mentro i’r  copa ac i’r gwynt a’r glaw. Yn ein blaenau wedyn ar hyd y grib am Fynydd  Drws  y Coed, yn aml yn cael cysgod o’r  gwynt ond y glaw yn ddi-drugaredd ar gyfnodau. Cael lloches ger wal arall ger  copa Mynydd Tal-y-Mignedd i gael cinio. Y glaw wedi peidio erbyn hyn ond y  cymylau a’r niwl yn dal yn isel. 
        
        Ar ol cinio dringo   Craig Cwm Silyn, rhai yn dilyn y llwybr ac eraill yn sgramblo. Ymlaen  wedyn am Garnedd Goch a Mynydd Craig Goch. Dipyn o ddadl ar y  copa olaf ynglyn ag union leoliad y copa!
        Roeddem wedi disgyn   dipyn cyn dod allan o’r cymylau a’r niwl a chael golygfeydd, ac felly  wedi cwblhau’r grib ar ei hyd yn y niwl. Serch hynny cafwyd digon o hwyl a  sgwrsio yn ystod y dydd ac fe lwyddwyd i ddarbwyllo Dewi a oedd heb wneud y  daith o’r blaen fod golygfeydd gwych i’w gweld   mewn amgylchiadau gwell a’i bod yn werth iddo ei mentro eto mewn tywydd  mwy ffafriol!
        Cyrhaeddom yn ôl i’r ceir yn Nebo erbyn 5 o’r gloch ac wrth  gwrs wrth deithio yn ôl am Ryd Ddu fe welwyd   fod y cymylau a’r niwl wedi codi a chopaon y grib yn glir erbyn hynny. 
        
      Diolch i bawb am eu cwmni ac fel yr addawyd mae  cyfrinachau’r sawl oedd wedi cyrraedd Rhyd  Ddu yn y bore wedi anghofio ei esgidiau cerdded a’r sawl fentrodd allan hefo  ffyn rhywun arall wedi eu cadw!!
Adroddiad gan Morfudd
Lluniau gan Myfyr ar FLICKR
