HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen yr Ole Wen a Charnedd Dafydd 24 Ionawr

[Enwau o’r chwith i’r dde yn ôl y llun ar gopa Pen yr Ole Wen.] Prys, Maldwyn, Meirion, Gareth, Gwenan, Alun, Sian, Gareth, Manon, Eryl, Sioned, Gareth, Dylan, Iolo, Janet.

Ar ôl i rai fod yn bwydo Robin Goch mewn maes parcio ger Betws y Coed [gweler y lluniau!] daeth 15 i ymgynull yn Ogwen.

Roedd y ddringfa serth i fyny Pen yr Ole Wen yn gyfle i bawb gael cynhesu ar ôl y stelcian rhynllyd yn y maes parcio. Aeth y rhai mwyaf mentrys i fyny’r pwt o sgrambl a’r gweddill yn crafangio i fyny’r rhan olaf o’r sgri.

Roedd yn ffodus ein bod wedi aros am baned wrth gysgod craig cyn cyrraedd y copa gan fod y gwynt deifiol yn ddigon i rynnu pawb wrth gerdded rhwng Pen yr Ole Wen a Charnedd Dafydd. Haul braf a chopa clir oedd hi i fod yn ôl darogan y Swyddfa Dywydd!!

Gan ei bod yn rhy lithrig tan droed i groesi llethrau Carnedd Dafydd am Fraich Tŷ Du, aethom i lawr Moel Meirch a Moel Graig am Fwlch Ty’n y Maes a dychwelyd i Ogwen ar ochr orllewinol i Nant Ffrancon.

Adroddiad gan Raymond

Lluniau gan Raymond ar FLICKR