HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diffwys a'r Llethr 21 Tachwedd


Ar ol taith ar y ddwy Rinog fis Gorffennaf, Sioned Llew yn deud nad oedd eirioed wedi bod ar Y Diffwys o'r blaen, felly arni hi roedd y bai am hyn. Bore oer, sych a braf yng Nghwm Mynach ac aelodau'r clwb yn cyrraedd y maes parcio bach ym mhen ucha'r cwm - ac yn dal i gyrraedd...ac yn dal i gyrraedd...23 yn y diwedd. Ar ol tagio pawb, fyny ar hyd ffordd y goedwig nes cyrraedd yr hen dramffordd sy'n arwain i waith mango (manganese) Diffwys. Eira dan draed o'r pwynt yma ymlaen. Panad sydyn yn yr haul ar ben yr inclen ac ymlaen i'r grib - gwyntog! Dilyn y wal i gopa'r Diffwys a nifer yn datgan nad Sioned oedd yr unig un na fu yma o'r blaen - dathliadau lu. Yn ol i lawr i'r bwlch gan sylwi ar y cymylau a'r cawodydd trymion allan yn y mor a thros Pen Llyn tra'n torheulo (wel, mwynhau beth bynnag) ar y grib. Cinio mewn man cysgodol ar Grib y Rhiw ac ymlaen i gopa'r Llethr - pwynt ucha'r dydd, gyda'r cymylau yn neshau. Disgyn lawr i Fwlch Llyn Hywel a throi i'r dwyrain lawr at Lyn y Bi. Cawodydd eira ysgafn yr oll ffordd i lawr i chwarel Cefn Cam - paned arall. Dilyn hen ffordd y chwarel wedyn, heibio Hafod y Brenin (Shanti fel y'i gelwir yn lleol) ac yn ol i'r goedwig. Yn ol wrth y ceir tua 4 o'r gloch. Criw da. Diolch i bawb. 

Y criw oedd: Edward, Hilary, Chris, Gwyn Llanrwst, Morfudd, Cemlyn, Eirwen, Alun Fachwen, Alun Caergybi, Jeremy, Iolo, Gwyn Chwilog, Arwel, Manon, Clive, Rhiannon, Sioned, Gareth Wyn, Eryl, Raymond, John Port, John Parry a minnau, Myfyr.

o.n. llawer yn tynnu lluniau - dewch a nhw.

Adroddiad gan Myfyr

Lluniau gan Myfyr a Sioned ar FLICKR