HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Carnedd y Filiast ac Elidir Fawr 19 Rhagfyr

Er y rhagolygon difrifol, daeth naw o eneidiau dewr at ei gilydd i fentro allan er mwyn cael chwa, neu chwythiad iawn, o awyr iach.

Gyda Swyddfa’r Tywydd yn darogan gwynt o 65 mya ar y copaon, a’r car yn siglo wrth aros i bawb gyrraedd, doeth oedd syrthio nôl ar ‘Plan B’, sef hepgor yr uchelfannau a defnyddio’r ffordd i ddringo at y pwll ymchwydd, sy’n ran o Gynllun Trydan Hydro Dinorwig, ar lethrau Elidir Fach, ac yna dychwelyd trwy Chwarel Dinorwig. 

Cychwynsom i fyny’r lôn am Farchlyn Mawr mewn gwynt a glaw. Cafwyd gwyriad bach i’r chwith ar ôl 500m i weld y ‘garreg hetar’ yn y nant. Gosodwyd y garreg drionglog hon yng nghanol Afon Marchlyn Bach ar orchymyn Esgob Bangor yn 1830. Gellid symud y garreg gan geffyl, a’i defnyddio i reoli llif y dŵr, gan ei gyfeirio naill ai i’r ffrwd ddwyreiniol i Ddyffryn Ogwen, neu i’r ffrwd orllewinol i Landdeiniolen .

Wrth ddychwelyd at y ffordd a throi wrth Marchlyn Bach am y pwll ymchwydd, roedd rhaid brwydro yn erbyn gwynt nerthol. Pawb yn cael ‘worc-owt’ iawn!  Dilyn ochr ucha’r chwarel, ac yna disgyn at ben inclên. Stopio yma am ginio, a chael cysgod mewn gweithdy anferth gyda chyfres hir o beiriannau llifio llechi rhydlyd. Erbyn hyn roeddem o dan y cymylau ac yn gallu gweld y tirwedd ôl-ddiwydiannol rhyfeddol o’n cwmpas, a Llyn Peris oddi tanom.

Cerdded lawr  yr inclên i ymuno efo’r llwybr cyhoeddus sy’n croesi’r chwarel. Dilyn hwn heibio’r ceudyllau i Ddinorwig. Dŵr ymhobman, ac un nant yn edrych fel  geyser wrth i’r gwynt drechu grym disgyrchiant a chwythu’r dŵr yn syth nôl i fyny i’r awyr. Nôl at y ceir ar hyd lonydd bach y wlad., a wedyn panad haeddiannol yn y Caban ym Mrynrefail.

Taith efo mwy o darmac na rhai arferol CMC, ond o leiaf mi gawsom ni fynd allan!

Dylan Huw, Gareth, Gaenor, Gwyn (Chwilog), Heli, Iolyn, John (Parry), Sioned , a Morfudd am y banad! Diolch i bawb am ddod allan ar y ffasiwn dywydd!

Adroddiad gan Elen

Lluniau gan Sioned ar FLICKR