Mynydd Conwy ac yn ôl ar lan y môr 18 Mawrth
        
        Mynydd a Môr  
        
Conwy – Mynydd y Dref – Castell Caer Seion –  Penmaen-bach – Dwygyfylchi – Morfa Conwy – Conwy
Pellter : 9 milltir
  “Yr oedd   i ni ddiddanwch yn y môr a’r mynydd . . . “
        Yr oedd pob un o’r chwe ‘dringwr’ ar hugain  ohonom a ymunodd yn y daith gylch a gychwynnai yng Nghonwy ddydd Mercher wedi  bod ar ‘gopa’ Mynydd y Dref neu Fynydd Conwy nifer o weithiau ac wedi sylwi,  mae’n debyg,  ar  fryngaer eang Castell Caer Seion ar uchder o  800 troedfedd.  Dau yn unig, fodd bynnag,  oedd wedi dringo  i gopa Penmaen-bach nad  yw ond pedair troedfedd yn uwch.   Yn  sicr mae’r gwyriad hwn ar Lwybr y Gogledd yn werth ei wneud gan fod golygfeydd  gwych i’w cael  ar y gwastadedd rhyngom a  Phenmaenmawr i’r gorllewin, draw i gyfeiriad y Gogarth i’r gogledd ac i’r de ar  gefnen Tal-y-fan.  Er ffodused oeddem i  gael diwrnod brafiaf y flwyddyn hyd yma, heb brin chwa o wynt,  oherwydd y tawch -  er siom i’r Monwysion  yn ein plith - yr oedd ‘Môn yn freuddwydiol a mud’,  yn bod yn y dychymyg yn unig.  Pan dynnwyd sylw o gopa Penmaen-bach at ddau  gae gwyrddlas di-frwyn a di-garreg gyda wal gerrig grefftus o’u cylch holodd un  o’r beirdd yn y fintai a fu Waldo yma rywdro!   Tybed a oes enwau i’r caeau hyn? 
        
        Gan mai taith Glwb Mynydda oedd y daith bu  peth mentr wrth grafangu dros raeadr o gerrig rhydd a llwyni grug wrth ddod i  lawr o Benmaen-bach i’r llwybr yn y cyfrwy rhyngom a’r Alltwen.  Oddi ar y llwybr ar i waered ceir golygfa  hyfryd dros Goed Pendyffryn a’r maes carafanau heibio ffordd ddeuol yr A55 a’r  rheilffordd  ar dywod Traeth y  Lafan.  Ar lecyn glas wrth borth Eglwys  Sant Gwynnin yn Nwygyfylchi y gloddestodd hanner y cwmni tra dewisodd yr hanner  arall fwyta’u brechdanau ar y traeth!  Bu  i amryw holi beth yw ystyr yr enw cyfylchi.  Diffiniad GPC yw ‘math o amddiffynfa neu gaer  gron gyflawn’.  Mewn enwau lleoedd y  digwydd bron yn ddieithriad.  Yn ogystal  â’r enw plwy yma yn Arfon ceir Bwlch y Gyfylchi, Craig y Gyfylchi  a Chapel y Gyfylchi ym Morgannwg a Y Gyfylchi ym Mynwy. 
        
        Profiad anarferol i aelodau Clwb Mynydda yw  cerdded rhyw bedair milltir ar dywod ond cyn agor ffordd y gallai cerbydau a  cheffylau ei thramwyo’n ddiogel ar dro’r ddeunawfed  a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y tywod  hwn y teithid o fferi Conwy draw i Fiwmares pan fyddai’n drai i osgoi aruthredd  creigiau Penmaen-bach.  Dangosir y ffordd  ar fap John Ogilby (1600 – 1676) o’r daith o Lundain i Gaergybi  yn yr atlas ffordd gyntaf i’w hargraffu yn  unrhyw wlad yng ngorllewin Ewrop yn 1675 (COPI yn y casgliad lluniau - dolen isod).   Wrth syllu tua’r clogwyn ar y dde yr hyn âi â bryd Arwel a John P oedd y  grib ddiddorol yn codi o ymyl y twnnel i ben Penmaen-bach.  Tybed a ddringir hi? 
        
        Mynd heibio’n frysiog ar y briffordd wnaeth Alun  Llywelyn-Williams yn Crwydro Arfon.   I’r neb a ymddiddoro yn hanes teithio y mae i’r rhan hon gyfaredd a  chwilfrydedd.  Mae’r fryngaer y buom yn  cerdded trwy ei chanol ar Fynydd y Dref, y cylchoedd cerrig trawiadol ar Gefn  Coch uwch ben Penmaen-mawr, chwarel fwyeill Graig Lwyd, bryngaer Braich y Dinas  (nad yw’n bod mwyach ar Benmaen-mawr) a’r olion cyn hanes niferus yn brawf fod  prysurdeb ar hyd y canrifoedd.  Ar gwr yr  ardal y dewisodd y Rhufeiniaid groesi trwy Fwlch y Ddeufaen ar eu ffordd o  Canovium  tua Segontium.  Trwy gydol yr Oesoedd Canol yr oedd cryn  deithio o Lundain i Iwerddon.  Ar un adeg  Caer oedd y porthladd yr hwylid ohono ond yn ddiweddarach  dewisai rhai teithwyr gadw i’r tir o Gaer,  croesi ceg afon Conwy â fferi,  ac yna anelu am borthladd Biwmares ar draws y tywod. 
        Cyfeiria llawer o’r teithwyr a ymwelodd â gogledd  Cymru at beryglon y daith rhwng Bangor a Chonwy.  Dyma’r hyn a ysgrifennodd W Bingley ar  ôl ei deithiau yn 1798 a 1801: 
       Before this pass was  formed, which is now nearly thirty years ago, the usual mode of going betwixt  Conwy and Bangor was either in boats, or, waiting the departure of the tides,  to proceed along the sands at low water.   The latter mode was frequently attended with danger, owing to the soft  places made by the fresh water streams, and the hollows formed by the tide, of  the depth of which, when filled with water, the guides could not always be  certain.  Few carriages at that time were  taken betwixt the two towns, but nearly all the travellers were conveyed on  horseback.  There were two inns for the  convenience of waiting the departure of the tides, the buildings of which are,  I believe, both yet standing, but appropriated to other uses.  One of these was near the turnpike under  Penmaen Mawr, and the other near Penmaen bach. . . .
  Â Bingley ymlaen i ddweud :  
   ... There was a  horse-road along the side of the mountain, but it is said to have been  excessively dangerous and bad; in some parts it ran above, and in others below,  the present road.  Those who went in  carriages, or on horseback, along the sands, set out from Conwy marsh, went entirely  round the promontory, and passed on the outside of Penmaen Bach.
        Y mae Thomas Roscoe yntau yn 1853 yn  cyfeirio at y ddwy dafarn  :
    Correctly speaking, this  great mountain promontory has two divisions, - one of which is called Penmaen  mawr, the other Penmaen Bach, - the latter lying the nearest to Conway; but the  whole is generally known to the tourist by the former name.  Less than a century ago, a narrow zigzag  path, along the side of the rock, was the only convenience for travellers. At  that time there was an inn at each end of the pass, and the witty Dean Swift is  said to have composed the following couplets, which greeted the admiring  traveller on the sign-posts as he entered and debouched from it :- 
  “Before you venture here to pass, /  Take a good refreshing glass.”
              “Now you’re  over, take another, /  Your drooping  spirits to recover.”
        Hanesyn a aeth â bryd un o’r arweinyddion yw’r  un am y ddamwain a gafodd y ‘Parchedig Mr Jones’, Llaneilian wrth groesi  Penmaen-mawr yn 1762.  Syrthiodd ei geffyl  a bu’n rhaid ei ddifa.  Lladdwyd gwraig a  farchogai y tu cefn i’r Person ond bu ef yn ddigon bachog i dynnu’r cyfrwy a’r  drecs a cherdded oddi yno’n groeniach.
Ond yn ôl at y ffyrdd.  Gwaith John Sylvester yn 1772 oedd  gwella’r ffordd dros Sychnant a bu’n rhaid aros tan 1825 i Thomas Telford agor y  ffordd gyntaf ar draws  Penmaen-bach ac yn 1845 y cafwyd y rheilffordd.   1934 yw’r dyddiad ar geg y twnnel. 
        Ar ôl cyrraedd y marina yng Nghonwy cawsom  olwg ar y maen sy’n cofnodi gwaith Iorys Hughes, peiriannydd sifil  a anwyd ym Mangor, y gŵr a gomisiynwyd gan  Churchill i ddylunio ac adeiladu cynffurfiau llwyfan glanio a ddefnyddiwyd yng  Nglaniad Normandy yn 1944.  Am gyfnod yr  oedd cymaint â 900 o bobl yn gweithio ar y prosiect yma yng Nghonwy. 
        Ein balchder ni Gymry yng Nghonwy yw mai yma y  sefydlodd Llywelyn Fawr abaty i’r Sistersiaid.  I wneud lle i’w gastell a’i dref gaerog adeg  ein darostwng symudodd Edward y Cyntaf yr abaty a chorff Llywelyn i  Faenan.  Wrth fynd yn ôl i’n ceir yn y  maes parcio yr oeddem yng ngolwg y Gyffin lle y ganwyd dau Gymro nodedig  iawn.  Am ran helaeth o’r 19 ganrif  credid mai John Gibson (1790 – 1866) oedd cerflunydd marmor gorau’r  byd.  Fe’i magwyd yma mewn amgylchiadau  tlawd.  Ysgolhaig ac awdur disglair oedd  yr Esgob Richard Davies (1501? – 1581).   Ei waith pwysicaf oedd ei gyfraniad i’r cyfieithiad Cymraeg o’r Llyfr  Gweddi Gyffredin a’r Testament Newydd (1567). 
        I gloi diwrnod cofiadwy yr oedd galw yn  nhafarn yr Albion i fwynhau sgwrs fywiog a phaneidiau o de neu beintiau o gwrw  yn well dewis na mynd i Eglwys Conwy i chwilio am gofeb Nicholas Hookes,  plentyn rhif 41 ei dad William Hookes ac Alice ei wraig a thad 27  o blant a fu farw 27 Mawrth 1637. 
  
  Enwau’r rhai ar y daith 
        John Parry (Port), Gwil a Gwenan, Anet, Gwyn  (Chwilog), Eryl, Angharad a Jane, Arwel, Gwilym Jackson, Rhys Llwyd, John Parry  (Llanfair), Nia a Meirion a Mags, Rhiannon (o Gaernarfon), Gwyn (Llanrwst),  Osian a Rhiannon (Wrecsam), Dafydd, Iona, Gwilym Hughes, Margaret a Gareth,  Meira a Geraint.
      
O.N. 
        Mi gawn ni hanes Gwendud merch Helig ap  Glannog mab Gwgawn Gleddyfrudd mab Caradog mab Llŷr Mereini mab Einion ap  Cunedda y tro nesa’ y byddwn ni yng ngolwg Tyno Helig !!
Helig ap Glannog   - Arglwydd Abergele, Rhos, Arllechwedd,  Llŷn, Cantref Gwaelod 
        Glannog  mab Gwgawn Gleddyfrudd mab Caradog mab Llŷr  Mereini mab Einion ap Cunedda
        Safai prif lys Helig tua hanner y ffordd rhwng  Penmaen mawr a’r Gogarth.  Gellir gweld  olion ar drai isel tua dwy filltir allan i’r môr yn union gyferbyn â Thrwyn yr  Wylfa – bryn mawr yng nghanol plwyf Dwygyfylchi.  Yma y rhedodd Helig ap Glannog a’i ŵyr pan  dorrodd y môr atynt.  Yr oedd gan Helig  lys arall yn ymyl Pwllheli - Pwllhelig yn wreiddiol.
  
  Traeth y Lafan –  Traeth Aflawen – traeth annymunol, golygfa annymunol i’r trigolion a thrist o gofio’r  wlad hardd fel yr oedd.  Gellir gweld  gweddillion coed derw ac ynn ar drai isel.
  
  Motifau’r llên gwerin:  gorlifiad lleol a dianc rhag  gorlifiad
  
  Boddi Tyno Helig :  boneddiges gyfoethog yn byw ym maes  Tyno Helig, merch Helig ap Gwlanog – ei henw: Gwendud –  “gwraig o arferion hynod o anniwair ac o  ymddygiad balch neilltuol”.  Yr oedd gŵr  ifanc am ei phriodi ond cyn y cytunai hi yr oedd yn rhaid iddo fod yn  eurdorchog h.y. fod ganddo dorch o aur sef ei fod yn dywysog.  Yn y stori yr oedd Sais yn cychwyn ar daith  o’r ardal yn llwythog o anrhegion ac y mae’r gŵr ifanc yn cynnig bod yn  arweinydd iddo.  Er mwyn sicrhau ei  gyfoeth, gan gynnwys torch aur, mae’r Cymro yn arwain y Sais ar lwybr uchel ar  y graig - byddai’n rhy beryglus i gadw at y gwastadedd coediog gan fod  bleiddiaid ffyrnig yno.  Ar lan  afon a red i’r môr yng Nglan Môr Elias  lladdwyd y Sais a dyma egluro enw’r afon hyd heddiw sef Afon Lladd y Sais.  Cosb am hyn ac am fywyd anfoesol Gwendud oedd  boddi’r tir.
  
  Merddyn Hywel:  Milwr dewr a bardd oedd Hywel a chanai gerddi serch i’w wraig.  Trigai’r ddau, yn ôl y stori, ym mryniau  Penmaen bach -  lle mwy cysgodol nag yn  yr ucheldir.  Dyma un llinell: “Y gaer  falchwaith o’r Gyfylchi”.
  
  Afon Gwrach: Yn ôl  chwedl gwrthodai’r Cymry yfed dŵr o’r afon am y credent ei fod yn  wenwynig.  Y mae’r afon Gyrach yn tarddu  yn agos i Llwyn-pen-du.  Yn y mynydd-dir  trigai gwrach erchyll o’r enw Andrasta neu   Andras.  Gallai hon hedfan.  Yr oedd ganddi bair a merch.  Yn y blynyddoedd a fu arferai pobl “a  chrefydd ddrwg ganddynt ladd gwŷr a gwragedd i’w bodloni i fyny ar y  mynydd”.  Yn yr hen fytholeg Frythonaidd  aberthid pobl i’r wrach Andrasta.  Y mae  llên gwerin yn sôn am deml i Geridwen yng Nghaergyfylchi.
  
    Adroddiad gan Geraint
Lluniau gan Anet, Gwenan, Gareth a Geraint ar FLICKR
