HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Llanberis 18 Chwefror

Cyfarfu ugain ohonom ym maes parcio’r Glyn ar gyfer taith Dyffryn Peris sef Gwyn, Geraint, Gareth (Tilsley), Gwilym, Bert, Dilys, Nia Wyn, Gaenor, Gwen, Clive, Rhiannon, Haf, Megan, Gwenan, Gwil, Anet, Rhian, John Parry (Sir Fôn), Huw Myrddin a minnau.

Wedi croesi’r ffordd ymlwybrwyd trwy goedlan Coed Doctor cyn crwydro heibio cefn y pentref at lethrau Moel Eilio.  Dilynwyd y llwybr at Gwm Brwynog ac olion Capel Hebron.  Ar fore gwyntog a glawog ni fentrwyd ymhellach ar hyd y cwm  oherwydd y gwlybaniaeth dan droed!

Cerddom i lawr llwybr yr Wyddfa at Ben Ceunant.  Diolch o galon i Bert am drefnu i ni ddefnyddio cwt Clwb Mynydda Caer amser cinio.  Erbyn hyn roedd pawb yn falch iawn o gysgodi rhag y gwynt a’r glaw.

Pan adawsom loches yr adeilad rhyw hanner awr yn hwyrach roedd y glaw wedi ysgafnhau ac enfys i’w gweld dros y pentref.  Cawsom gysgod wrth fynd trwy Goed Fictoria cyn croesi’r ffordd a mynd i archwilio Castell Dolbadarn.

Prif ddringfa’r dydd oedd llwybr y ‘zig-zags’ tuag at yr ‘Anglesey Barracks’, sef cartref chwarelwyr Môn yn ystod eu cyfnod yn llafurio yn Chwarel Dinorwig.  Troediwyd llwybr yr inclein i fyny at arsyllfan Dinorwig lle’r edmygwyd ysblander y chwarel, yr olygfa tuag at Nant Peris ac i’r cyfeiriad arall tuag at y Fenai.

Dilynwyd llwybrau Fachwen yn ôl at yr Amgueddfa Lechi gan ymweld â’r Marwdy ar y ffordd.  Cawsom baned ac ambell gacen yng Nghaffi Llygad yr Haul cyn dychwelyd at y ceir.

Adroddiad gan Eirwen

Lluniau gan Gwenan (uchod) ac Anet ar FLICKR