HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gogledd y Carneddau 13 Mehefin


17 ohonom yn cyfarfod yn y maes parcio wrth y bont yn Aber a phawb yn hapus i weld fod y tywydd ddim hanner mor ddrwg â'r rhagolygon. Ymlaen at y ddwy raeadr ac wedyn dechrau codi wrth ochor Afon Gam, gydag ambell i un yn newid i mewn i drowsus byr oherwydd y tywydd cynnes a chlir. Neb yn gwybod ar y pryd ond buan oedd hyn am newid!

Tra'n cael paned yn y bwlch rhwng Moel Wnion a Drosgl, mae'r cwmwl yn dechrau dychwelyd a buan oedd yr olygfa wedi mynd a dim cip o gopa Drosgl na dim byd arall chwaith. Ymlaen yn y cwmwl trwm i fyny Drosgl o’r ochor ddeheuol gyda'r copa yn dod i'r sylw o'r diwedd. O Drosgl at Bera Bach gyda sgrambl bach hawdd i fyny at y copa cyn mynd ymlaen i'r Aryg i gael ein gwynt a chinio yng nghysgod y copa.

O'r Aryg at Garnedd Gwenllian, diwedd y daith i'r rhedwyr yr oedd yn cystadlu yn y ras y copaon 3000 yr un diwrnod, ac wedyn dilyn y marciau oedd wedi eu gosod i'r rhedwyr at Foel Fras. Ymlaen yn y cwmwl trwm at y Drum, y chweched copa o'r dydd, a phaned arall yng nghysgod y garnedd.

I lawr y trac am gyfnod cyn troi i'r Gorllewin i gerdded dros Pen Y Bryn Du, Yr Orsedd, Foel Ganol at y degfed copa, Foel Dduarth. Y cwmwl yn dechrau codi, neu efallai mai ni oedd yn dychwelyd at dywydd brafiach, a medru gweld rhywfaint i lawr i Gwm Anafon ond dim o Ynys Môn i'w weld. Bron iawn yn union i'r munud i ni adael y copa mae'r cymylau yn agor dipyn i ddatgelu golygfa dros y Fenai, gyda'r llanw allan, at Ynys Seiriol ac Ynys Môn.

Gerallt yn trefnu pawb (wel bron iawn bawb) am lun o gwmpas y garreg gyda'r arwydd o'r Carneddau cyn cerdded i lawr y lôn serth yn ôl i'r ceir.

Taith o tua 8 awr, bron yn 13 milltir o hyd a gyda 10 copa a digon o gymylau.

Diolch i bawb am eu cwmni ac i Gerallt am gymryd y lluniau.

Adroddiad gan Alun Hughes

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR