HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Pennant 12 Medi



Ar ôl trefnu fod rhai ceir wedi eu parcio yn uwch i fyny’r cwm - ar gyfer coesau blinedig ar ddiwedd y dydd, roeddem yn barod i gychwyn erbyn 9.30.
 
Roedd yna 11 ohonom, yn hyderus fod y glaw am gilio erbyn y pnawn, sef: John, Meirion, Gaenor, Gareth, Iolo, Alun Caergybi, Sioned, Eirwen, Alun, Gwyn [yn ôl trefn y llun cyntaf]. Wrth i ni gyrraedd pen draw Cwm Llefrith ac edrych dros ein hysgwyddau, roedd llewyrch yn yr awyr uwch ben Pen LLŷn [tarddiad pob tywydd braf!] yn argoeli fod yr haul ar y ffordd.

Felly wrth gyrraedd Moel yr Ogof roedd y copa yn glir. Ar ôl perswadio rhai i beidio a mynd i chwilio am Ogof Glyndŵr, aethon ymlaen am Foel Lefn ac am ginio yn y chwarel islaw Bwlch y Ddwy Elor.
Hir a chwyslyd oedd y ddringfa serth i fyny at gopa Trym y Ddysgl ar ôl cinio. Ymlaen â ni am Dal y Mignedd cyn ymosod ar Graig Cwm Silyn, copa uchaf y dydd, 734m. Ymlwybro hawdd oedd hi wedyn ymlaen am y 7fed copa, sef y Garnedd Goch, cyn dychwelyd i Gwm Pennant ac yn ôl at y ceir erbyn 5.30.

Penderfynwyd gorffen y dydd gyda pheint haeddianol yn nhafarn yr Afr, Glandwyfach.

Adroddiad: Raymond Wheldon-Roberts

Lluniau gan Raymond ar FLICKR