HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arfordir gogledd Môn 9 Rhagfyr



Gyda’r rhagolygon yn addo tywydd stormus a gwynt, braf oedd croesawu 23 o aelodau selog y clwb i Borth Swtan.  Mae’n debyg mai rhyw fath o bysgodyn ydi swtan, sef whiting yn Saesneg.  Penderfynu cychwyn y daith hefo’r gwynt i’n cefnau i gyfeiriad y gogledd.  Heibio’r Gwter Fudur, Yr Ogof Goch a Phorth Bribys i Borth y Nant.  Yno roedd ewyn gwyn o’r môr wedi troi’r porth yn wyn fel cawod o eira wedi disgyn a’r ffrwd o’r ffynnon yn cael ei chwythu yn ôl ar ei hun.  Anodd oedd peidio gwlychu wrth i’r nant dasgu ar ein pennau!

Ymlaen i Ynys Fydlyn a chael cinio yn cwatio tu ôl i’r wal wrth Lyn Fydlyn.  Mae nifer o straeon diddorol am longddrylliadau yn yr ardal yma.  Y mwyaf diddorol mae’n debyg yw am y ddau fachgen o dras Sbaeneg a ddarganfuwyd mewn cwch wrth Ynys Fydlyn.  Mabwysiadwyd un o’r bechgyn gan deulu'r Fynachlog ac fe enwyd yn Evan Thomas.  Sylweddolwyd fod ganddo ddawn arbennig o osod esgyrn ac fe ddaeth y teulu yn enwog dros genedlaethau fel teulu orthopedig mwya blaenllaw’r wlad.

Dyfeisiodd un aelod, sef Hugh Owen Thomas, y ‘Thomas Splint’ ac fe fuodd yn gyfrifol am achub nifer o fywydau yn ystod y rhyfel byd cyntaf.

Crwydro wedyn ar draws tir amaethyddol i gopa Mynydd y Garn.  Y gwynt yn cryfhau ac anodd oedd sefyll wrth gofgolofn Syr William Thomas, perchennog llongau a chyn Uwch Siryf Sir Fôn.  Er hynny roedd golygfeydd o ogledd y sir yn eang.  Beth a ddaw o Wylfa B, sgwn i?

Yna’n ôl i Borth Swtan ar hyd y lôn.  Ymddiheuraf i Carys, Dewi a’r cŵn am eu gadael ar ôl!  Byddaf yn fwy gofalus y tro nesaf!

Diolch i bawb am eu cwmni diddorol.

Adroddiad gan Haf

Lluniau gan Haf, Arwel ac Anet ar FLICKR