HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Llanymddyfri 9-11 Hydref



Roedd Guto wedi llwyddo i ddod o hyd i lety hwylus a chroesawgar yn hostel y Level Crossing i fod yn bencadlys ar gyfer gweithgareddau’r penwythnos.

Ar y Sadwrn, arweiniodd Alun Voyle daith gerdded yn cychwyn o bont  Gallt y Bere ger Rhandirmwyn ac ar hyd y bryniau o amgylch cymoedd Doethie a Physgotwr tra’r aeth eraill ar eu beiciau yng nghwmni Guto o amgylch Llyn Briane a heibio capel Soar y Mynydd a thros y mynydd i Dregaron cyn dychwelyd drwy Llanddewi-Brefi, Cwmann, Pumsaint, Llanwrda a Llangadog.  Llwyddodd y ddau griw i gyrraedd nol mewn pryd i weld Cymru’n colli i Awstralia ar y maes rygbi a rhai hefyd yn gwylio colled crysau cochion y bel gron yn Bosnia – cyn dathlu o ddeall bod eu lle ym mhencampwriaeth Ewrop wedi ei sicrhau.

Ar y Sul, roedd dewis eto o gerdded neu feicio.  Taith fwy hamddenol na’r diwrnod cynt oedd yr arlwy ar ddwy olwyn – Guto yn arwain y beicwyr y tro hwn i lawr Dyffryn Tywi cyn belled â Chaerfyrddin ac yn ôl.  Camodd Iolyn i’r bwlch i arwain y daith gerdded, gan anelu am Drygarn Fawr a’i garneddi rhyfeddol.  Wedi gadael un car yn Abergwesyn, aeth y ddau gar arall â’r criw i gychwyn cerdded o Llannerch-yrfa ym mhen uchaf cwm afon Irfon a mwynhawyd taith gylch ddymunol iawn er gwaethaf ambell i ddarn gwlyb sy’n nodweddu’r llechweddau hyn.

Diolch i Guto am drefnu ac iddo ef ac Alun ac Iolyn am arwain teithiau a sicrhaodd benwythnos llwyddiannus iawn.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Sioned ar FLICKR