HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Sych a’r cyffiniau 9 Mai



Dim ond dau arall, Raymond a Gaenor, a ymunodd a mi ar y daith yma. Mae’n debyg fod y rhagolygon tywydd digalon a’r ardal sydd dipyn bach o’r neilltu oedd rheswm am hyn. Mae’r daith i gopa Moel Sych yn eithaf syml ac yn cerdded hawdd. Cychwyn o Langynog, lle parcio hwylus gyda thŷ bach, a chychwyn am gwm Glan-hafon ond troi i fyny Nant Ddial am y bwlch sydd i Gwm Blowty. Peidio mynd lawr i’r cwm, dilyn y llwybr dros Graig y Mwn ac i lawr at Nant Disgynfa, (gellir picio draw i edrych dros y pistyll enwog), ac yna dilyn y fraich i’r copa. Er gwaethaf y rhagolygon fe gychwynnodd y dydd yn o lew ond erbyn cyrraedd y copa ‘r oeddem yn y niwl ond dim glaw diolch byth. Tir mawnog gwlyb sydd rhwng Moel Sych a’r B4391. Mae llwybyr o goed wedi ei greu ar y rhan olaf ond ar ôl glaw trwm y noson gynt bu yn amhosib cadw’r traed yn sych ar y rhan gyntaf. Ar ôl croesi’r ffordd mae’r llwybyr yn amlwg i gychwyn ac mae hefyd llwybyr amlwg i fynd i lawr Cwm Rhiwarth i Langynog ond nid dyna’r bwriad. Dilyn y ffordd drol ymlaen ac mae pont dros Nant Llwyn Gwern ond o’r fan yma ymlaen does fawr o lwybr. Mae rhywfaint o hoel gerdded, neu lwybr defaid, i fynd am y blwch  trosodd i Gwm Pennant ac ar ôl tua chilometr mae ffens a giât. I lawr yr ochor arall mae llwybyr yn fwy amlwg am ychydig ond os am fynd at eglwys Llanfihangel mae’n rhaid torri ar draws i’r dde at giât fechan. Doedd dim hoel cerdded i’w weld ond erbyn hyn ‘roedd y niwl wedi diflannu a’r haul yn tywynnu a gwelwyd y giât. O’r fan yma ymlaen mae’r llwybyr yn sychach dan droed ac ar y diwrnod Cwm Pennant yn edrych yn wych yn yr haul. Wedi cyrraedd y cwm rhaid oedd ymweld â’r eglwys. Mae gwaith adnewyddu wedi bod ac mae llawer o wybodaeth am yr hen hanes a’r adnewyddu gyda  lluniau. Mae awyrgylch braf iawn yn y lle; mae’n werth galw hyd yn oed os nad ydych yn gredwr.  O’r eglwys i Langadog mae’n daith hyfryd drwy’r cwm ac mae tafarn ar ben y daith


Adroddiad gan Iolyn

Llun gan Iolyn