HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Chwareli Cwm Penmachno 8 Gorffennaf


Cymal cyntaf y daith oedd dringo’n serth drwy olion chwarel Rhiwfachno, chwarel wyneb agored, heibio’r Twll Mawr, Dyfn Canol, Twll yr Offis a Thwll Dŵr.  Er bod safle’r chwarel mor bell o’r môr yn ei gwneud yn anodd i allgludo’r llechi, roedd yn chwarel sylweddol yn cyflogi hyd at gant tua diwedd y 19eg ganrif.  Byddai’r cynnyrch yn cael ei gludo gan geffylau i’r cei yn Nhrefriw ac yna o’r 1860au ymlaen i gwrdd â’r rheilffordd ym Metws-y-coed.  Ymhell i’r 20fed ganrif defnyddiwyd tracsiwn stêm at y gwaith o gysylltu â’r trên.

Caeodd y chwarel yn derfynol yn 1962, yr ergyd olaf i’r diwydiant llechi ym mhlwyf Penmachno gan brysuro ymhellach y diboblogi mawr a oedd eisoes ar droed.  Uniaethu â’r dirywiad yma wnaeth Gwilym Tilsley yn ei awdl adnabyddus Cwm Carnedd ac yng nghanol yr olion a’r cwmwl isel yn cau amdanom roedd arwyddocâd neilltuol i’r englyn
                        Sbwriel o chwarel wedi’i chau – a niwl
                               Y nos ar y crawiau;
                           A gwaith dyn, fel brethyn brau
                           Yn braenu rhwng y bryniau.

Wedi mynd heibio olion yr argae a arferai gyflenwi dŵr i yrru’r peiriannau, daethom i ddarn gwastad drwy’r coed cyn cyrraedd adfeilion pentref a chwarel Rhiw-bach. Datblygodd y chwarel hon, dan ddaear yn bennaf, yn sylweddol o’r 1860au ymlaen wedi i’r cwmni adeiladu tramffordd i gysylltu â chwarel Maenofferen.  Drwy Blaenau Ffestiniog yr allforid y llechi oddi yma felly a’r cwmni hefyd yn gallu codi tâl ar chwareli cyfagos Blaen-y-cwm a Chwt-y-bugail am ddefnyddio’r dramffordd. Cyflogid 130 yma yn 1883 gyda nifer o deuluoedd yn byw gerllaw yng ngerwinder y mynydd, 1,300 troedfedd uwch lefel y môr.  Cynhelid cyfarfodydd diwylliannol ac roedd llyfrgell hefyd ac yn 1908 agorwyd ysgol yn Rhiw-bach gyda’r athrawes (nain y geiriadurwr Bruce Griffiths) yn teithio i fyny gyda’r gweithwyr o ’Stiniog bob bore. Byr fu oes yr ysgol, fodd bynnag; caeodd yn 1914 wedi i’r Rhyfel Mawr effeithio’n ddrwg ar y diwydiant chwarelydda. Ond bu peth adfywiad a pharhawyd i weithio’r chwarel hyd at 1953 a dau yn dal i ‘faricsio’ yno hyd at y dyddiau olaf.

Dilyn y dramffordd, digon gwlyb dan draed, oedd cymal nesaf y daith heibio i olion chwareli Blaen-y-cwm (caeodd yn 1914) a Chwt-y-bugail (caeodd yn y 1960au) at Lyn Bowydd a’r Llyn Newydd cyn wynebu darn di-lwybr at odrau Moel Fras lle cafwyd cinio yng nghysgod y graig.  Roedd y tywydd yn codi beth a gallem weld yr Arenig a’r ddwy Aran y tu hwnt, y Moelwynion a’r Rhinogydd a Chadair Idris ar y gorwel pell a gallai rhai, craff eu llygaid, ganfod siâp Castell Harlech hefyd.
Roedd llwybr (gwlyb!) am rhyw filltir a hanner gydag ymyl y coed sydd wedi llenwi Cwm Penamnen ond gydag ambell fwlch yn caniatau i ni weld pentref Dolwyddelan oddi tanom a’r Wyddfa a’i chriw, Moel Siabod, y Glyderau a’r Carneddau yn y pellter.  Roedd milltir a mwy di-lwybr (gwlyb eto!), a blinedig erbyn hyn, cyn cyrraedd y llwybr i lawr drwy goedwig heibio murddun Hafod-fraith Uchaf ac ar draws y caeau at ran uchaf pentref Cwm Penmachno, pedwar teras o dai (Glan Aber, Machno, Rhiw-bach a Glanrafon) a godwyd gan gwmni chwarel Rhiwfachno yn benodol ar gyfer y gweithwyr.
Cyrhaeddwyd yn ôl at y ceir toc wedi 3.30 a braf oedd cael cwmni pawb am baned a chacen yn Eglwys Sant Tudclud, Penmachno cyn troi am adref.  Diolch i’r rhoddion o dros £56 tuag at goffrau’r eglwys.

Dyma restr o’r cerddwyr:  Nia Wyn, Margaret a Mair, Gwenan a Gwil, Haf, dau John Parry (Port a Llanfair-pwll), Rhys Llwyd, Dewi Aber, Rhodri, Eirwen, Rhiannon a Clive, Arwel, Dilys ac Aneurin, John Arthur, Gwilym, tri cyfaill o Benmachno, Anne-Marie, Joyce a John ynghŷd â Jane, Angharad ac Eryl

Adroddiad gan Jane, Angharad ac Eryl  

Lluniau gan Gwenan ar FLICKR