HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Sgramblo/Sgrialu:  Llechog a’r Gyrn Las 3 Hydref




Cyfarfu 13 ohonom ar fore sych ond braidd yn gymylog sef – Manon, Sioned, Janet, Iolo,Raymond, Elen, Mark, Gareth Rynys, Gareth Everet, Eryl, Gareth Wyn, Chris a Hilary ar ei thaith cyntaf gyda’r clwb.

Cychwyn cerdded ar hyd ochr y ffordd i gyfeiriad Gwastadnant a chroesi afon i gyfeiriad Cwm Hetiau a Llechog. Yna croesi tirwedd gwlyb ar hyd y gwaelod ac i fyny’r llethr i gychwyn y sgrialu go iawn. Cafwyd paned sydyn cyn cychwyn i fyny hafn o laswellt a chreigiau nes cyrraedd blociau mawr o greigiau a’r darn anoddaf o’r sgrialu. Digon rhwydd oedd gweddill y grib heb fawr ddim o sgrialu agored a chyrraedd y copa i olwg y rheilffordd a dwsinau o gerddwyr i’w gweld ar lwybr Llanberis.
Cymerwyd y cyfle i gael cinio ac un ohonom yn sylweddoli ei fod wedi colli ei siwmper ddrudfawr rhywle ar y ffordd i fyny’r grib. Gwirfoddolodd Eryl, chwarae teg, i fynd lawr yn ôl gyda fo i chwilio amdani!

Cychwyn wedyn tuag at Gorsaf Clogwyn ac ymuno â’r nifer o gerddwyr ar y llwybr hyd at Bwlch Glas, cyn troi i gyfeiriad Crib y Ddysgl lle roedd Eryl a Mark yn disgwyl amdanom gyda’r siwmper yn sâff yn ei fag. Cafwyd amser i gael diod sydyn ac yna dilyn y grib i gyfeiriad Crib Goch ac i lawr y grib gogleddol i Cwm Glas Uchaf lle cafodd rhai ohonom gyfle i sgio lawr drwy y sgri mân.

Ymlaen wedyn i gyfeiriad  Llyn Glas wrth odre Clogwyn y Person ac ymlwybro lawr y llwybr i’r ffordd fawr ac yn ôl i’r maes parcio.

Byddaf yn meddwl ambell waith, pam mae amryw ohonom yn hoffi sgrialu a’r ateb amlwg i mi yw ei fod yn bendant, yn ffordd mwy diddorol a heriol i gyrraedd copa’r mynydd  na’r llwybrau arferol.
Cafwyd diwrnod pleserus o fynydda gyda chwmni hwyliog.

Adroddiad: Gareth Wyn

Lluniau gan Iolo Roberts a Sioned Jones ar FLICKR