HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybr Gogledd y Berwyn 2 Mai


Diwrnod o Fai ar Fynydd y Berwyn. Chewch chi ddim gwell!

Daeth pedwar ar ddeg  i ddal  bws enwog T3  yn Llangollen gan ddisgyn yng Nghynwyd. O Gynwyd dyma ni’n mynd i fyny i’r Goedwig  a thros y rhostir  tua Bwlch Cynwyd, Moel Fferna a Mynydd Feifod yna i lawr i Langollen. Roedd golygfeydd gwych tua Dyffryn Dyfrdwy i’r  gogledd ac i gyfeiriad Dyffryn Ceiriog i’r de – ond nid heddiw. Mwynhad gwahanol ddaeth i’n rhan  sef eira Mai, gwynt Mai, glaw Mai a niwl Mai. Ac yn  ymochel mewn coedwig, pleser oedd darganfod aelodau llaith Cymdeithas Edward Llwyd ar eu ffordd i Liberty Hall.

Diolch yn fawr i bawb am ddod. Roeddwn i wedi mwynhau’r daith yn arw yng ngwmni  llawen a di-gŵyn Nia, Idris, Haf, John, John, Gwyn,Gwyn, Siân, Leusa, Alun, Dewi, Dilys ac Aneurin.
Ac ymddiheuriadau am nad oes llun, byddai’r tywydd wedi andwyo’r camera.

Adroddiad gan Gwen

Gydag ychwanegiad gan Sian!
Mi a gredaf mai tywydd dihafal y Berwyn ym mis Mai y cawsom ddoe! Yn 1165 cafodd byddin Lloegr o dan Henry II ei churo gan Owain Gwynedd a’r tywydd!!:
 Paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Cynulliodd byddin y Saeson yn arglwyddiaeth Croesoswallt tra arosai'r Cymry yr ochr arall i'r Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru, ond roedd y tywydd yn ei erbyn. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Roedd y Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Saeson gyrraedd man cyfyng a choediog, ymosodasant ar golofnau blaen y fyddin Seisnig a'u dinistrio. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben.