HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyder Fawr a'r Garn 22 Tachwedd




Ymunodd 16 o aelodau gyda mi ar gyfer y daith i fyny’r Glyder Fawr a’r Garn  -  Alun Caergybi, Dafydd, Dewi Hughes (wedi teithio i fyny o’r de), Eirwen, Eryl, Gaenor, Gareth Everet, Gareth Wyn, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Morfudd, Myfyr, Nic, Raymond, Richard a Sian.  Maes parcio Nant Peris oedd y man cyfarfod gyda’r bwriad o ddefnyddio bws Sherpa i gyrraedd Pen y Pass.  Yn anffodus roedd y gwasanaeth yma wedi ei gwtogi dros fisoedd y gaeaf  a bu’n rhaid trefnu ceir i gyrraedd y man cychwyn.  Beth bynnag, roedd pawb wedi ymgynnull ym Mhen y Pass erbyn 9.45 ac yn barod i gychwyn.

O’r maes parcio croesom y ffordd a dilyn y llwybr gydag ochr yr Hostel Ieuenctid i gyfeiriad Llyn Cwmffynnon.  Ar ôl ychydig troi tua’r gogledd orllewin a dilyn llwybr (gwlyb iawn o dan draed ar adegau) i gopa’r Glyder Fawr.  Wrth ennill uchder fe ddirywiodd y tywydd a bu’n rhaid aros i wisgo dillad glaw.  Roedd y llwybr yma yn un distaw iawn a welson ni neb ar y ffordd i fyny; roedd amryw o’m cyd-gerddwyr yn dweud iddyn nhw  ddod i lawr y ffordd yma yn y gorffennol ond erioed wedi ei ddefnyddio i fynd i fyny.

Llwyddwyd i gyrraedd copa’r Glyder Fawr erbyn tua 11.30 a bellach roedd y tywydd wedi cau go iawn.  Cawsom baned sydyn yn cysgodi o’r gwynt a’r glaw cyn cychwyn i lawr am Lyn y Cwn.  Wrth lwc collwyd neb yn y niwl trwchus!  Dringo i gopa’r Garn wedyn a’r tywydd yn dechrau gwella.  Cafwyd paned arall ar y copa yno cyn ail-gychwyn.

Gan ei bod yn eitha cynnar, y tywydd yn gwella, ac Elidir Fawr i’w gweld yn ymddangos o’r cymylau penderfynwyd mynd amdani.  Yn wir fe aeth 7 egniol i fyny’r Foel Goch hefyd tra’r anelodd 10 ohonom yn syth am gopa’r Elidir.  Ail-gynullodd pawb ar y copa am sgwrs a phaned olaf cyn cychwyn y ddisgynfa hir i lawr i Nant Peris.  Roedd nifer yn aros ymlaen ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol yng Ngwesty’r Victoria, Llanberis gyda’r nos.

Yn anffodus, wrth ddod i lawr Elidir Fawr cafodd Dafydd godwm a brifo ei glun.  Diweddodd y dydd yn  Ysbyty Gwynedd lle bu’n rhaid iddo gael triniaeth.  Y newyddion da yw ei fod yn gwella.

Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau Gan Myfyr Tomos ar FLICKR