HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Keswick 19-21 Medi




Cafwyd penythnos llwyddiannus arall yn Ardal y Llynnoedd gyda’r tywydd yn braf a heulog ar y Sul ond yn gymylog ar y copaon ar y Sadwrn, er na chafwyd fawr ddim glaw.

Seathawite ym mhen uchaf Borrowdale oedd y gyrchfan i’r rhan fwyaf ar y dydd Sadwrn ac yna anelu am Scafell Pike.  Cerdded i fyny gydag ymyl rhaeadr Taylorgill Force, ymlaen am Sty Head ac yna ar hyd y Corridor Route.  Iolo Roberts, Prys, Gareth Wyn a Gareth ‘Rynys, Curon, Sioned, Raymod a Richard (Rhuthun) yn dewis gadael y llwybr i sgrialu i fyny hafn gwlyb Skew Gill ar ochrau Great End ond Iona, Elizabeth ac Eryl (yn gallach o lawer!) yn aros ar y llwybr ac yn cyrraedd y copa mewn niwl trwchus dipyn o flaen y criw mwy mentrus.  Pawb yn ail ymuno ar y ffordd lawr wrth i’r tywydd godi beth.

Taith fer yn y car oedd hi i’r un criw ar y Sul (ond bod Richard ddim efo ni a Sian wedi ymuno) i barcio ar ochr y ffordd fawr ger Scales i ddringo’r cwm tuag at Scales Tarn ac yna’r Sharp Edge enwog.  Haul braf yn golygu craig sych a phawb yn mwynhau’r her yn fawr iawn – yng nghanol dwsinau o gerddwyr eraill!  Wedi cinio hamddenol ar gopa Blencathra roedd digon o amser i fwynhau’r golygfeydd ar y ffordd lawr Scales Fell ac yn ôl i’r ceir erbyn tua 2.30 i wynebu pleserau’r M6! 
Bachu copaon y Nuttalls oedd nod Arwel a denodd gwmni Sian Shakespear ar y Sadwrn wrth iddo gerdded rhyw wyth ohonynt ond gorfod bodloni ar ei gwmni ei hun ar y Sul!

Treuliodd  Gwen Aaron, Gwen Richards, Gwyn Chwilog, Arfon ac Anet y ddeuddydd yn troedio’r copaon o gwmpas cwm yr afon Coledale.  Dydd Sadwrn dringo’r grib o Braithwaite i gopa Grisedale Pike mewn niwl trwchus.  Y cymylau’n gwasgaru erbyn cyrraedd Hopegill Head a’r daith i lawr y dyffryn o Coledale Hause yn braf.  Dydd Sul, diwrnod clir braf,cychwyn o Stair i fyny’r grib serth i Rowling End ac ymlaen i Causey Pike a Scar Crags.  Gwyn a’r ddwy Gwen yn dychwelyd o Fwlch Sail ac Arfon ac Anet y dringo Sail ac Eel Crag cyn eu dilyn i lawr cwm y Stonycroft Gill i Stair.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Anet ar FLICKR