HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Drum 15 Hydref


Llun cyfansawdd gan Gwenan

Doedd rhagolygon y tywydd ddim yn dda, ond er hynny cyfarfu naw ar hugain ohonom ym maes parcio'r goedwigaeth uwchben Aber - Eryl, Angharad, Lis a Jane o Benmachno, Mair, Margaret, Nia a John Parry o Fôn, Dafydd o Ddinbych, Gwen Aa a Gwen Rds, Rhys Llwyd, Gareth Tilsley, Alun y Gelli, Gwilym Jackson, John Arthur, Arwel, Gwenan a Gwil, Anet, Catrin Meirion, Iona Tanlan, Modlan Lynch, Dilys ac Aneurin, Eurwen, Rhiannon H-J a Dewi yn arwain gyda help Rhodri.

Llwytho pawb i gyn lleied â phosib o geir a gyrru i ben y ffordd cyn cychwyn cerdded gyda'r afon Anafon ac ennill cryn uchder ar y trac tua'r llyn.  Wrth i ni gael panad yng nghysgod yr argae roedd y niwl yn isel a thywyll ar y copaon o'n cwmpas a'r bwlch rhwng Y Drum a'r Foel Fras ond yn y  golwg yn ysbeidiol. 

Dringo tua'r Drum wedyn a Dewi'n ymlafnio i sicrhau nad oedd neb yn cael ei golli yn y niwl a phawb yn cyrraedd y copa'n ddiogel.  Fuo 'na fawr o loetran wrth giniawa ar y copa gan fod y gwynt yn oer a'r niwl yn drwchus ond mi wellodd petha ar y ffordd i lawr wrth groesi copaon a chribau bach difyr Pen Bryn Du, Foel Ganol a Foel Dduarth a dotio at y golygfeydd tua'r gogledd.  Roedd y gwynt wedi codi go iawn erbyn hyn ond llwyddodd pawb i gadw ar ei draed a bu'r glaw cystal ag aros draw heb ond daflu ychydig ddafnau y munudau olaf cyn cyrraedd y car.  Roedd Dewi wedi gofalu ein bod i lawr mewn pryd i gyrraedd Caffi'r Hen Felin cyn iddo gau ac roedd gweld drwy'r ffenest ei bod erbyn hyn yn tywallt y glaw yn ychwanegu at fwynhad y baned a'r gacen.

Diolch i Dewi am arwain a bugeilio criw go fawr ohonom ar daith ddifyr dros ben.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Gwilym ar FLICKR