HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Mynyddoedd Duon 13 Rhagfyr




Cylchdaith o tua 11 milltir cymerodd 6 awr,  gan ddechrau a gorffen ym maes parcio Crughywel.

Dros y caeau i Langenny, dilyn yr afon Grwynne Fawr i Millbrook Bridge, wedyn dringo Pen y Fal (Sugarloaf i rai) o'r de-orllewin - esgyniad o ryw 520 m, er fod y 'mynydd' ddim ond 596 m.  

Dilyn y grib wedyn yn ôl i'r gorllewin gan gyrraedd y Grwynne Fawr eto ar bwys Llanbedr. Dilyn yr
afon yn ôl i Langenny (lle roedd y Dragon's Head ar gau er mawr siom rhai.).

Wrth i'r haul fachlud, dilyn y ffordd yn ôl i Grughywel, lle roedd y Bear ar agor! (Peint hyfryd, awyrgylch clud a chwmni dethol!)

Adroddiad gan Richard Mitchley

Lluniau Gan Richard Mitchley ar FLICKR