HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith y 15 copa 13 Gorffennaf

Yr Wyddfa - yn y glaw!


Roedd y pedwar ohonom oedd yn bwriadu gwneud taith y 15 copa eleni (Mark, Ifor, Rhodri a minnau) wedi bod yn pori dros ragolygon y tywydd ar gyfer y penwythnos  cyn penderfynu mai dydd Sul (13eg Gorffennaf) fyddai’r diwrnod gorau i fynd amdani. Roedd yn addo glaw yn ystod y bore ond yn gwella yn arw ar gyfer y prynhawn a gyda’r nos.

Felly, roeddem yn disgwyl y glaw a’r niwl ym Mhen y Pass am 3.30y.b. ond digon diflas oedd o serch hynny. Aethom dros Grib Goch a Charnedd Ugain heb lawer o drafferth ac ymuno hefo nifer o bobl yn cerdded i gopa’r Wyddfa (gwneud taith y  3 chopa efallai) am oddeutu 5.30.  Er ein bod wedi meddwl cael saib sydyn ar y copa, gan ei bod mor oer a gwlyb yno aethom yn ein blaenau a stopio ar ben y cwm cyn y disgyniad  serth i Nant Peris.

Roedd yn rhaid disgyn tipyn eto cyn dod allan o’r niwl a chyrraedd Nant Peris erbyn tua 7 o’r gloch. Roedd ganddom gar wedi ei barcio yno yn cynnwys mwy o fwyd a diod ac ambell ddilledyn sych.
Ymlaen wedyn am Elidir Fawr, un o rannau  anoddaf y daith, ac yn ôl i’r cymylau a’r niwl. Pawb wedi ymladd heblaw am Rhodri a saethodd i fyny mewn amser da iawn. Wedi saib sydyn ar y copa anelu am y Garn a gweld y niwl a’r cymylau yn codi a’r haul yn dechrau ymddangos  a ninnau’n gobeithio fod y gwaethaf o’r tywydd drosodd. Fodd bynnag, hanner ffordd i fyny’r Glyder Fawr dechreuodd lawio eto ac erbyn cyrraedd y copa roedd yn debycach i ddechrau  Hydref na Gorffennaf. Tamaid sydyn i’w  fwyta eto cyn parhau. Roedd y rhan drosodd i’r  Glyder Fach ac ymlaen i gopa Tryfan yn annifyr iawn yn y gwynt a’r glaw a dod i lawr Tryfan yn hunllefus gan fod y llwybr yn serth a’r creigiau yn wlyb a llithrig (cefais sawl codwm ar y ffodd i lawr!)

Roedd yn braf iawn dod allan o’r niwl a’r gwynt a glaw  a chyrraedd y man parcio ger Llyn Ogwen  lle’r oedd Tanya,  gwraig Mark, yn disgwyl amdanom hefo llond cefn  car o fwyd a diod hynod o dderbyniol ac yn hwb mawr i ni cyn cychwyn ar ran olaf y daith.

Yn anffodus doedd Mark ddim yn gallu cario ymlaen ac felly tri ohonom, hefo coesau blinedig, ddringodd i Ben yr Ole Wen a rhyddhad mawr oedd cyrraedd y copa a gwybod bod y dringo mawr wedi ei gwblhau.. Ond eto  wrth ddringo roeddem yn dychwelyd i’r niwl a’r cymylau ac felly y bu nes cyrraedd hanner ffordd rhwng Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn pryd yr ymddangosodd yr haul ac y cododd y niwl yn iawn ac am y tro cyntaf fe welsom awyr las. Roedd yn amseru da gan y gwnaeth y dasg o gael hyd i’r llwybr at yr Elen yn llawr haws o’i gymharu â cheisio gwneud hynny yn y niwl.

Ar ôl yr Elen ymlaen at gopa Carnedd Llywelyn ac erbyn hyn roeddem yn gweld copa Foel Fras a diwedd y daith a hynny yn codi ein calonnau. Brasgamu wedyn dros Foel Grach a Charnedd Gwenllïan a chyrraedd Foel Fras erbyn 7.25. Llawenydd mawr ein bod wedi cwblhau'r daith mewn amodau digon anodd ac Ifor a Rhodri yn gwneud hynny am y tro cyntaf.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau gan Iolo Roberts ar FLICKR