HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Foel Ddu a'r Cyffiniau 12 Mawrth


Llun cyfansawdd gan Gwenan


Nifer MAWR yn Rhydymain, colli cyfri ar ôl 20!!  Bore braf, gwahanol i fis Hydref 2013.  I fyny'r tarmac heibio Hengwrt a Braich y Fedw, trac i Hendre Ffridd Mynach, i Gyfyng y Benglog - gwych, a phaned ym murddun yr Hafoty yn yr haul cynnes.

Penderfynu anghofio Foel Ddu am heddiw, ac ymlaen am Fryniau Cogau ac wedyn uchafbwynt y dydd  - grug trwchus ond sych!  Cinio o dan yr unig goeden am filltiroedd, ymlaen i'r bwlch o dan y Dduallt.  Rhai'n mynd i'r copa, lleill i weld ffynnon Ddyfrdwy honedig gan Jim Perrin, a rhai yn ôl.  Tywydd dal yn wych, paned arall yn Hafotty, yn ôl i'r ceir erbyn  pump.  Moel Ddu/Craig y Benglog y tro nesa hwyrach!

Adroddiad gan John (Port) Williams