HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod 8 Tachwedd



Er gwaethaf darogan tywydd hynod o wlyb gan arbenigwyr meteorolegol megis Derec, MWIS ac Eirwen Fachwen, death unarddeg o gerddwyr ynghyd i fentro esgyn Moel Siabod: Eryl; Gareth R’ynys; Gareth Wyn; Gwyn; Alice; Robat; Siân; Alun; Raymond; Sw a Richard.

Cafwyd ambell gawod a hyrddiad o wynt ond, ar y cyfan, roedd y tywydd yn eitha’ ffafriol wrth i ni gerdded  o amgylch Llyn y Foel ac yna sgramblo Braich y Ddaear Ddu.

Roedd y criw yn eistedd yn glyd yn Nhafarn Ty’n Coed erbyn dechrau gêm Cymru ac Awstralia.

Diolch i bawb am eu cwmni.
                                          
Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Richard ar FLICKR