HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach 8 Mawrth

Er fod niwl dros gopaon y Moelwyn Mawr a'r Cnicht wrth i ugain ohonom gychwyn o faes parcio Croesor ar fore digon llwytaidd, roedd y rhagolygon yn addo gwelliant, a fel hynny y bu. Cerdded ar hyd y ffordd am Dan y Bwlch i ddechrau ac i fyny'r rhiw am y nyrs o goed conwydd ar y gorwel. Roedd y llwybr trwy rhain ar gau am fod nifer ohonynt wedi eu dymchwel drifflith-drafflith gan y gwynt mawr diweddar. Ymlaen felly trwy'r giat a throi i'r chwith am fraich y Moelwyn Bach, a golygfa wych o Draeth Mawr oddi tanom. Codi'n raddol i ben y Moelwyn, yna hoe fach gysgodol cyn mentro i ddannedd y gwynt wrth ddringo Craig Ysgafn. Fel yr addawyd, roedd y copaon yn glir erbyn hyn a'r tywydd yn brafio. Er fod y gwynt yn hyrddio ar y ffordd i fyny, roedd pen y Moelwyn Mawr yn ryfeddol o dawel, ac fe gafwyd ail ginio yma - gyda ambell un, nas enwir, yn hepian yn yn yr haul! Lawr am Chwarel y Rhosydd wedyn gan fynd dros Moel yr Hydd ar y ffordd, wedyn trwy'r barics ac i lawr y llwybr ar ochr Dyffryn Croesor yn ol at y ceir.

Diolch i Delyth, Dewi, Charli, Maldwyn, Haf, Anet, Richard, Sw, Gwilym (Jackson), Morfudd, Alun Huws ac Alun Caergybi, Eirwen, Gwyn (Williams), Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Gwen (Aaron), Gwen (Richards) a Myfyr am eu cwmni.

Adroddiad gan Elen

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR