HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Maentwrog - Ceunant Llennyrch 8 Ionawr


Llun cyfansawdd uchod gan Gwenan

Ceunant Llennyrch.
Daeth 28 o aelodau at ei gilydd ar ddiwrnod digon dymunol , yn gymylog, ond y glaw yn cadw i ffwrdd nes i ni gwblhau’r daith ac yn gyfforddus yn yr Oakley Arms yn Maentwrog.

Y cam cyntaf oedd mynd heibio pwerdy niwclear Trawsfynydd, gyda tua saith gant o weithwyr yno ar hyn o bryd, yn datgymalu’r safle – mwy nac oedd  yno pan oedd yn cynhyrchu trydan.

I lawr am Gellilydan, yn dilyn y llwybr beics cyn troi ar y ffordd heibio Cefnfaes, dros y pibelli sy’n cario dwr i orsaf bwer Maentwrog, a phaned bach o dan y coed.

I mewn i Geunant Llennyrch, gyda golygfeydd i lawr i Afon Prysor, a dilyn llwybr cul ar hyd ochr y ceunant cyn ymuno â’r tarmac yn arwain at y pwerdy.  Croesi’r afon, ac i fyny trwy Goed Llennyrch at brif argae Llyn Trwsfynydd, yn ôl i’r ceir ac i lawr i’r Oakley cyn i’r glaw ddod.

Adroddiad gan Raymond

Lluniau gan Raymond a Gwilym ar Flickr