HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Yr Eisteddfod 7 Awst


Gogoniant gogledd Gŵyr oedd gyferbyn â ni wrth inni gychwyn ar grwydr o faes Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli. Roedd rhai o griw y de a chyfeillion o’r gogledd wedi dod ynghyd a braf oedd cael cwmni dau ifanc. (Dai Thomas, Eryl Pritchard, Eileen Curry, Emlyn Penny Jones, Digby Bevan, Llŷr Evans,  Alun Roberts, Eryl ac Angharad Owain, Iolyn ac Eirlys Jones, Curon Davies ac Amy Jones)
Dyma sylweddoli ymhen dim o dro fod hon yn daith arbennig yn hanes Clwb Mynydda Cymru – sef, yn ôl pob tebyg, y daith isaf a mwyaf gwastad erioed.

Tua’r gorllewin oedd y nod gan fynd ar hyd glan ogleddol Moryd Byrri a cherdded yn gyfochrog â Chefn Padrig. Dilyn Llwybr Arfordir Cymru (a Llwybr Celtaidd Sustrans) yr oeddem drwy Barc Arfordirol y Mileniwm, gan fynd heibio i bentref cysglyd Maes B. Wrth inni gyrraedd harbwr Porth Tywyn dyma daro ar wynebau cyfarwydd sef Dei, brawd Iolyn, a Cheryl, Gareth a Gaenor a oedd yn mwynhau eu taith feicio ar fore braf o haf.

Yn ogystal â gwirioni ar y golygfeydd, cwrdd â llu o bobl ddiddorol a chael ymarfer corff, roedd gan Amy reswm ysgolheigaidd dros ddod ar y daith oherwydd ei bod yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth, gan hoelio sylw ar ymateb pobl i Lwybr Arfordir Cymru.

Dywedir bod Cefn Sidan yn rhyw 8 milltir o hyd ac mae’n rhaid ein bod ni wedi cerdded o leiaf 6 ohonynt. Roedd pen dwyreiniol y traeth ynghyd â’r pen gorllewinol yn wag (heblaw am ddyrnaid o ‘byrcs’ neu noethlymunwyr a ddaeth i’r golwg wrth inni agosáu) gan fod pawb yn heidio i’r rhan ganol ger y fynedfa ac yn gyndyn o fynd ymhellach na rhyw 200 llath!! A’i throi hi am gyfleusterau’r fynedfa a wnaethom ninnau i gael hoe fach ac i fwynhau hufen iâ ar ganol ein taith.

Roeddem bellach ym mherfeddion gwlad Gwŷr y Bwyelli Bach a arferai ddenu llongau i’w tranc ar draeth Cefn Sidan, drwy chwifio lanterni liw nos ar y twyni, a hynny er mwyn eu hysbeilio. Yn wir cyn pen y daith gwelsom weddillion dwy long oedd wedi eu dryllio amser maith yn ôl.

Erbyn hyn roedd Moryd Byrri y tu cefn inni wrth i Fae Caerfyrddin ymagor o’n blaenau, ac roeddem yn agosáu at aberoedd Tywi, Taf a Gwendraeth - sydd ar ffurf crafanc aderyn. Ar y gorwel gwelem Ynys Bŷr ger Dinbych y Pysgod ac o’n blaenau tywynnai tai Talacharn yn y tes ar draws yr aber. Yn y pellter uwchlaw bryniau Sir Gâr safai Foel Cwmcerwyn, sef copa uchaf mynyddoedd y Preseli.

Ond roedd yn rhaid cefnu ar ysblander euraidd traeth Cefn Sidan a mynd trwy goedwig Pen-bre am ryw filltir a hanner. Daeth tref hynafol Cydweli ynghyd â phen isaf Cymoedd Gwendraeth i’r golwg ar ôl inni gilio o’r coed. Roedd Cydweli yn edrych yn dwyllodrus o agos, ond hynt igam ogam oedd o’n blaenau. Ar adegau ymddangosai fel petai pen y daith yn pellhau wrth inni fynd ar hyd y morglawdd, sef Banc y Lord, cerdded ar hyd cwr y morfa a chroesi Gwendraeth Fawr.  Oddi yno buom yn dilyn yr hyn sy’n weddill o hen gamlas Kymer, a godwyd yn ail hanner y ddeunawfed ganrif ac a adferwyd ryw ugain mlynedd yn ôl, hyd at y cei yng Nghydweli.  Bu’n rhaid inni frysio am y filltir olaf drwy’r dref ond llwyddwyd i ddal y bws yn ôl i Lanelli.  Rhyw 12 milltir oedd y daith yn ôl y rhaglen ond roedd y coesau a’r cymalau’n rhyw awgrymu ei bod yn hirach, a chadarnhawyd yn ddiweddarach “drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf” ein bod wedi cerdded 14 o filltiroedd. Ond mae’n rhaid cyfaddef taw milltiroedd gwastad oedd y rhain a bod y man uchaf, ar y daith hon gan Glwb Mynydda Cymru, yn rhyw 10 metr yn unig uwchlaw lefel y môr!  Y gobaith yw bod pawb wedi mwynhau eu taith gan ein bod wedi cael golwg ar ran o fro’r brifwyl ar ei mwyaf gogoneddus.


Adroddiad Llŷr