HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau o Eigiau 5 Gorffennaf

Wedi tywydd gwael yn y diwrnodau blaenorol,roeddem yn ffodus iawn o gael tywydd braf ar y diwrnod. Roedd pump ohonom yn cyfarfod yn y gilfan sef Gwilym J, Iolo, Eirwen ac Alun CG.

Cyrhaeddom y man parcio yn Eigiau gyda digon o le wrth lwc, ac ‘roedd yr olygfa tua pen y cwm mor glir. Roeddem yn cychwyn cerdded ar hyd y ffordd droellog i gyfeiriad Melynllyn a chymeryd seibiant yno i drafod os oeddem am fynd lawr at Llyn Dulyn neu beidio. Yn syth am Foel Grach oedd y dewis a braf oedd gweld golygfeydd godidog i bob cyfeiriad. Cyrhaeddwyd y copa gyda thri arall yn cyrraedd o gyfeiriad Foel Fras, ac yn rhyfeddol, roeddynt hwythau hefyd yn Gymry Cymraeg. Cafwyd cinio cynnar cyn cychwyn i gyferiad Carnedd Llywelyn.

Erbyn hyn, roedd y mynydd wedi prysuro gan sawl un yn cyrraedd y copa o bob cyfeiriad. Aethom ymlaen i gyfeiriad Craig yr Ysfa a thrafodwyd pa ffordd oedd orau i fynd lawr yn ôl at Eigiau.
Penderfynwyd fynd yn ein blaenau dros Pen yr Helgi Du, lawr at Bwlch Tri Marchog lle gawsom baned. Yno fe sylweddolom fod gennym digon o amser i fynd i fyny Pen Llithrig a lawr yr ysgwydd i gyfeiriad Cedryn, ac ymuno â’r ffordd gul oedd yn arwain at y maes parcio.

Roedd yn ddiwrnod braf o fynydda gyda chwmni hwyliog.

Adroddiad gan Gareth Wyn.