HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith arbennig - Llwybr yr Arfordir 5 Mai

Lluniau'r daith ar hyd Llwybr yr Arfordir rhwng Machynlleth a Dywyn efo Beryl Vaughan a'i ffrindiau.  Bwriad Beryl yw codi arian at Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015.

Ar ôl taith lwyddiannus a difyr iawn o Fachynlleth i Aberdyfi i Dywyn, mi fyddwn yn cerdded mwy o Lwybr Arfordir Cymru dydd Mawrth 6 Mai, o Dywyn i'r Bermo, ac ar ddydd Mercher, 7 Mai, o'r Bermo i Harlech.  Os oes rhywun awydd ymuno â ni, cysylltwch â Haf (07760 283024), neu dewch i'r Bermo erbyn 10 y bore ar fore dydd Mercher.

Bydd Beryl Vaughan a'r criw yn cerdded mwy o'r arfordir ddechrau Mehefin felly gobeithio y gallwn roi dipyn bach mwy o rybudd i unrhyw un fasa'n hoffi ymuno â'r cymalau hynny mewn da bryd.

Adroddiad gan Haf

Lluniau gan Haf ar FLICKR