HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arenig Fawr a Moel Llyfnant, 26 Hydref


Ar fore diwrnod cyfarfod a chinio blynyddol y Clwb yn Y Bala, cychwynnodd wyth ohonom ar y daith i fyny’r Arenig Fawr, Alun (Caergybi),Sioned, Rhys,Gwyn (Chwilog), Myfyr, Huw Myrddin, Curon ( o Bontarddulais ar ei daith gyntaf) a minnau. Er nad oedd y rhagolygon tywydd am y diwrnod yn rhy ffafriol, roedd yn sych pan gychwynnom a’r cymylau i’w gweld yn codi oddi ar y copaon. Cerdded i fyny at Lyn Arenig Fawr ac wedyn dechrau dringo crib Carreg Lefain pryd yr ymunodd Arwel â ni. Paned sydyn tua hanner ffordd i fyny yng nghysgod y gwynt oedd yn cryfhau wrth i ni ennill uchder. Wedyn dringo i gopa’r Arenig Fawr ond yn anffodus erbyn cyrraedd yno roedd y niwl wedi ail ymddangos; serch hynny roedd Sioned yn benderfynol o gael llun o’r grwp ar y copa.

Wedyn dilyn y ffens yn y niwl tua’r bwlch a chael cinio yn cysgodi o dan greigiau allan o’r gwynt. Ar ôl cinio croesi’r bwlch (a oedd yn wlyb iawn) cyn dechrau dringo eto at gopa Moel Llyfnant. Erbyn cyrraedd y copa roeddem wedi ennill cerddwr ychwanegol arall, sef Manon a oedd wedi ymuno â ni ar ol cychwyn yn ddiweddarach. Y gwynt yn ofnadwy o gryf ar gopa Moel Llyfnant, prin roeddan ni’n medru sefyll yn syth yno, ond roedd Sioned eto yn benderfynol ei bod am gael llun! Disgyn i lawr wedyn i gyfeiriad Amnodd-bwll ac allan o’r gwynt wrth ryw lwc. Ar ôl pasio Amnodd-bwll ac wrth gerdded am y ffordd fawr, mynd trwy ddarn o dir eithriadol o wlyb, ac os nad oedd esgidiau pawb yn wlyb drwodd wrth gerdded at waelod Moel Llyfnant, yn sicr roeddynt yn wlyb ar ôl cerdded drwy’r darn yma.

Wedi cyrraedd y ffordd fawr, lle roedd Gwyn wedi gadael ei gar, cefais lifft hefo Sioned a Huw yn ôl i’r man cychwyn, ond roedd y gweddill yn benderfynol o barhau ar droed. Roeddem yn hynod o lwcus o fod wedi cyrraedd yn ôl cyn i’r glaw mawr gyrraedd yn ddiweddarach yn ystod y prynhawn. Taith anarferol gan fy mod wedi cychwyn hefo saith o gyd gerddwyr ac wedi gorffen hefo naw. Ond gwell hynny na fy mod wedi colli rhai wrth ddod lawr o’r Arenig Fawr yn y niwl trwchus! Diolch i bawb am eu cwmni; yn sicr roedd o leiaf naw ohonom yn haeddu ein bwyd yn y cinio blynyddol


Adroddiad gan Iolo Roberts