HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd Yr Wyddfa, 23 Tachwedd 2013

Ymunodd un ar ddeg o ffyddloniaid ar fore hydrefol oer i grwydro Moelydd yr Wyddfa.( Alun Roberts, Sian Williams, Gwyn Chwilog, Dafydd Williams, Rhiannon Trefor, Dafydd Richard Jones, Iolo, Gareth Rynys, Gareth Penmachno, Paul Swift a minnau).

Dilyn y ffordd i Fwlch y Groes a Sian yn sôn am y tro diwethaf iddi fod yno pan yn cwblhau marathon Eryri. Cyflymder ein taith ni cryn dipyn yn arafach a llawer llai poenus.

Ymlaen wedyn i gopa uchaf y diwrnod, Moel Eilio gan fwynhau golygfeydd bendigedig o Mynydd Mawr, rhan o Grib Nantlle, Moel Hebog, Yr Wyddfa dan fantell ysgafn o eira, yna heibio i Lanberis i’r Elidir a’r Garn a‘r Carneddau yn y pellter. Synnu fod cymaint o gerddwyr ar y copa a pha mor oer oedd y gwynt.

Ymlaen dros Foel Gron a Foel Goch ac i lawr i Fwlch Maesgwm cyn esgyn i gopa Moel Gynghorion ac i lawr i Fwlch Cwm Brwynog. Rhyfeddu gweld cymaint yn dod lawr o’r Wyddfa ar feiciau, yn wir erioed wedi gweld cymaint.

Mwynhau sgwrs a phaned cyn troi am adref gan gadw’n uchel yng Nghwm Brwynog ac ymuno a llwybr Llanberis ochr isaf i’r caffi.

Diwrnod da, golygfeydd godidog a chwmni diddan.


Adroddiad gan George Jones

Lluniau gan Iolo Roberts ar Flickr