HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Caerwych, Bryn Cader Faner, Nant Pasgan 17 Gorffennaf

Diolch i’r unarddeg a ymunodd â’r daith yn nhopiau Llandecwyn - Gwyn, Linda, Anet, Gwen A, Gwilym J, Gareth T, y tri John (W, P, ac Arthur), Eirlys ac Eryl. A ninnau yng nghanol y cyfnod gorau o dywydd braf a gafwyd ers blynyddoedd, roedd bron yn rhy boeth i feddwl mynd am dro ond, er gwaethaf y pryderon, cafwyd awel fach braf y rhan fwyaf o’r dydd, a chysgod cymylau bob hyn a hyn.

O Gaerwych, dilyn y ffordd i gyfeiriad y ddau Nant Pasgan, a throi i fyny’r hen ffordd gwaith mango, trwy’r rhedyn ac i’r ffridd nes dod i olwg Bryn Cader Faner.  Anelu wedyn am Lyn Caerwych lle cafwyd cinio a lle bu Gwyn Chwilog (y pysgotwr!) yn craffu am bysgod yn neidio!  Picio o fama i gopa Moel Geifr, a’r olygfa hyfryd dros Forfa Harlech ac Ynys Gifftan oddi tanom i ben draw Llŷn.  Yn ôl wedyn i gyfeiriad Moel Ysgyfarnogod nes ymuno â’r ffordd Oes Efydd o Ardudwy i Drawsfynydd a’i dilyn hyd heneb Bryn Cader Faner.  Wedi cyfle i edmygu BCF, ymlaen ar hyd yr un llwybr i gyfeiriad Cwm Moch, cyn troi i lawr am Nant Pasgan-mawr lle cafwyd cyfle i eistedd yn y cysgod i gael diod.  I lawr wedyn heibio Nant Pasgan-bach, trwy’r coed, ac yn ôl i Gaerwych.   Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad Haf

Lluniau gan Haf a Gwyn ar FLICKR