HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rachub i Aber 17 Ebrill


Roedd rhagolygon y tywydd am ddydd Mercher yn bur fygythiol ond er hynny roedd 14 ohonom ar y bws o Abergwyngregyn i Landygai lle roeddem yn newid am fws i Rachub.  Wedi sylwi ar gofeb Brenda Chamberlain, arlunydd ac awdur gyda chysylltiadau ag Enlli, cychwyn drwy giât y mynydd a sylweddoli yn syth bin fod y rhybuddion ynglŷn â gwyntoedd cryfion yn gywir.  Addasodd Dewi beth ar y daith a brwydrasom â’r gwynt gyda godre Moel Faban a thrwy Fwlch ym Mhwll-le cyn anelu am y Gyrn.  Cyrhaeddodd rhai’r copa tra swatiodd y lleill mewn corlan lle cawsom i gyd ginio yn y cysgod.  I ffwrdd â ni wedyn ar wib gyflym - doedd fawr o ddewis a’r gwynt dan ein hadain - tros Foel Wnion ac i lawr tua Llwybr y Gogledd.  Roedd yr esgyrn eira ar y llethrau uwch a chyrff merlod yma ac acw yn ein hatgoffa o’r tywydd mawr annhymhorol gafwyd yn y rhan yma o’r wlad yn ddiweddar.  Chafodd y bygythiad o law trwm i ni mo’i wireddu, dim ond cawodydd ysbeidiol o law mân i’n cefnau, a chyfle i sychu rhyngddynt.  Wrth ddilyn Llwybr y Gogledd tua phendraw’r cwm roedd y Rhaeadr Fawr yn tynnu sylw a mwy o ddŵr yn rhuthro i lawr y clogwyn nag yr oedd y rhan fwyaf ohonom wedi ei weld o’r blaen.  ‘Pa angen llusgo i weld y Niagra,’ oedd sylw Iona.  I lawr y cwm wedyn ac yn syth am Gaffi’r Felin yn Aber am baned a chacen dderbyniol (a haeddiannol!) allan o’r gwynt am y tro cyntaf ers i ni adael y bws. 

Ar y daith roedd tri aelod newydd, Diana a Nia Wyn o Sir Fôn a Dafydd o Ddinbych.  Hefyd dau John o Port, Haf M, Gwyn Chwilog, Gwilym J, Gareth Tilsley, Iona, Mair Llansadwrn, Clive, Anet a Dewi Aber, ein harweinydd.  Diolch i Dewi am drefnu taith mor ddifyr a’n harwain ar dir y mae’n gyfarwydd iawn ag o.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Haf a Gwilym ar Flickr