HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Marchlyn 16 Mawrth



Gyda'r tywydd yn brafiach na'r darogan, cafodd yr ugain a ddaeth ynghyd fwynhau'r haul wrth gerdded i fyny'r ffordd at Lyn Marchlyn Mawr a chyrraedd copa Carnedd y Filiast fel roedd yn dechrau pluo eira.  Ymlaen dros Fynydd Perfedd i Elidir Fawr gyda phawb (ond tri!) yn llwyddo i wasgu fel haid o bengwiniaid yn ceisio cadw'n gynnes i'r gorlan ar y copa i fwyta cinio.  Cawod drom o eira wedyn wrth ddisgyn tuag at Elidir Fach a chwrdd á Myfyr yn dod i fyny i'n cyfarfod - yn cyrraedd yn hwyr wedi galwad i'r Fron-goch gyda thim achub de Meironnydd!  Nol yn y ceir erbyn 2.30 mewn da bryd i gyrraedd set deledu ar gyfer ar gyfer yr ornest yng Nghaerdydd - diweddglo perffaith i'w diwrod!   Braf oedd cael croesawu rhai i'w taith gyntaf efo'r clwb - er eu bod yn fynyddwyr profiadol - gobeithio y cawn eu cwmni eto.  Diolch i Nathan an gyd-arwain. 

Adroddiad Eryl Owain

Lluniau gan Morfudd ag Anet ar Flickr