HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Mawr ('Eliffant'), 14 Rhagfyr 2013

Doedd y bore ddim yn cychwyn yn addawol iawn, finnau ddim yn siwr a fuasai criw o gwbl ar ôl gweld gwefan “met office” yn disgrifio tywydd am y pnawn fel “atrocious”! Ond, o faes parcio (drud) Rhyd Ddu, dechreuom: bump pererin dewr (Alun, Annest, Jeremy, Iolo a finnau) ar ein taith. Roedd yr awr gyntaf trwy’r goedwig a glan Llyn Cwellyn yn ddigon di gynwrf.

Cawsom baned yng nghysgod Castell Cidwm cyn dringo’r ceunant. Dringom lwybr main ger llednant Afon Goch wedyn [gwell na chwysu o un tocyn grug i’r llall]. Gwelsom weddillion hen de Haveland Mosquito a ddaeth i lawr yn 1944, nid nepell o’r nant. Bu ymladd ffyrnig iawn wedyn yn erbyn Morus y Gwynt gan gyrraedd copa Mynydd Mawr bron ar ein penna’ gliniau. Doedd dim siawns dilyn y grib gyda Chraig y Bera felly ei phlannu hi yn ol i Gwm Planwydd am ginio. Erbyn hyn doedd dim modd cyrraedd at sowdl Clogwyn y Garreg, heb son am ei ddringo. Felly troesom i lawr tros Fwlch y Moch ac yn ol i’r maes parcio a chyrraedd  jyst cyn i’r glaw trwm ein dal.

Adroddiad gan Raymond

Lluniau gan Raymond hefyd ar Flickr