HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Llangollen 13 Mawrth

Cefnogaeth dda gan dri ar hugain o gerddwyr heddiw, nifer yn aelodau newydd.  Roedd Llantysilio'n lle hwylus i barcio ac wedyn aethon ni dros Foel Hyrddyn i edrych o gwmpas Abaty Glyn y Groes cyn dringo i ben Castell Dinas Brân am ginio.  Sylwodd pawb bod y llwybr wedi gwella a brân fawr ddu (un blastig oedd hi?) yn eistedd ar ben giât.  I lawr drwy Coed Plas Trefor ac ar hyd y bont cario dŵr.  Dewis y cerddwyr oedd dychwelyd ar y bws am baned yn Llangollen a rhai'n cael mynd yn union i'r lle parcio.

Tua saith milltir o gerdded cymdeithasol, hamddenol, a'r tywydd yn para'n sych a heulog er bod gwynt traed y meirw yn chwarae mig ar ben y Castell.

Diolch i bawb am eich cwmni.

Adroddiad Gwen Evans

Lluniau gan Haf ar Flickr