HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llanrhychwyn, Geirionydd a Chrafnant 12 Mehefin




Mae teithiau dydd Mercher yn hynod boblogaidd, a chychwynnodd 24 ar y daith hon, er nad oedd y tywydd yn arbennig o garedig.  Cychwyn o’r maes parcio gyferbyn â ‘Tu Hwnt i’r Bont’ a cherdded drwy goed i hen eglwys Llywelyn Fawr yn Llanrhychwyn a chael paned - rhai yn yr eglwys ac eraill tu allan mewn glaw mân.  Mynd dros y bryn i gyfeiriad hen waith plwm Pandora, a phasio cyn-gartref Dilys Cadwaladr cyn troi i lawr at Lyn Geirionnydd a chael cinio ar feinciau pwrpasol a chyfleusterau da gerllaw.  Dilyn llwybr dros Fynydd Deulyn a gweld Llyn Crafnant, cronfa naturiol dŵr Trefriw a Llanrwst, oddi tanom, a cherdded ger ochr y llyn at ei ben. 

Dyna ni felly wedi gweld dau o’r llynnoedd a ddisgrifiodd Gwilym Cowlyd, bardd o’r ardal yn ei englyn:

            Y llynnau gwyrddion llonydd - a gysgant
                                    Mewn gwasgod o fynydd,
                        A thynn heulwen ysblennydd
                        Ar len y dŵr, lun y dydd.

Methu cael unman addas i lun o’r criw - siom i rai, llawenydd i eraill!  Cael cymorth Gwilym Jackson, sy'n enedigol o Drefriw, i’n tywys heibio i hen waith plwm Klondike, lle bu twyll gan ddyn o’r enw Joseph Aspinall tua 1920, twyll tebyg i ddisgrifiad Daniel Owen o waith Capten Trefor yn ei nofel Enoc Hughes.  Llwyddodd Aspinall i ddwyn £166,000 drwy werthu cyfranddaliadau diwerth, a chael ei garcharu am ddwy flynedd.  Mynd heibio i’r rhaeadr yn Nhrefriw a phenderfynu cael paned yng nghaffi'r Ffatri Wlân yn y pentref.  Dau yn dal y bws, a’r 22 ffyddlon yn mynd draw am Bont Gower, a chael llun o bawb o'r diwedd cyn dilyn ochr yr afon Gonwy ac yn ôl at y ceir tua 4:30. 

Dros 10 milltir medd rhai!  Tywydd wedi gwella drwy'r dydd, a phawb yn cyrraedd yn ôl yn sych.

Adroddiad Gareth Tilsley

Lluniau gan Haf ar Flickr