HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Mari Jones 9 Ionawr



Daeth 26 o gerddwyr brwd i'r Bala erbyn 10.30 y bore ar ddiwrnod annisgwyl o braf, ac fe'n cludwyd ar y bws i Lanuwchllyn.

Cychwynnwyd y daith o Bont y Pandy ac ar darmac oedd y tri-chwarter cyntaf. Ar ôl hyn buom yn dilyn llwybrau uwchben Llangywair, heibio Bryn Glas a Phant yr Onnen a Graienyn gan ddod lawr i'r Motel. Croesi cledrau y tren bach a phont Mwnwgl y Llyn ac wedyn i'r Bala erbyn 3.00 y pnawn.

Roedd tarth oer yn y dyffryn drwy'r dydd ond roeddem y rhan fwyaf o'r amser uwch ei ben ac yn mwynhau golygfeydd anghyffredin iawn o Benllyn.

Mwynhawyd y baned yn y Cyfnod yn fawr iawn.

Adroddiad gan John Parry

Lluniau gan Haf ag Arwel ar Flickr