HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd, 7 Rhagfyr 2013

Diwrnod o awyr las di-gwmwl drwy’r dydd. Daeth Eirwen (Fachwen) , Alun( Caergybi) a  John Arthur i gychwyn o’r  Dderwen Fythol-wyrdd yn Llanferres gyda Gwen yn arwain. Yr unig beth mae Llanferres yn enwog amdani yw mai dyma lle ganed y Dyneiddiwr enwog John Davies Mallwyd , fu’n golygu Beibl William Morgan ac yn rhan o’r Dadeni yng Nghymru.  

Croesi’r ffordd fawr a thua’r  De  i ddilyn Llwybr Clawdd Offa cyn troi am  Lyn Gweryd ac i Lanarmon. Galw i mewn i’r Raven lle roedd yr aelwyd  yn glyd wrth y tân coed ar ôl gwynt oer y Moelydd. Ymlaen wedyn i balmant calchfaen Bryn Alun ac yn ol i Blymog.

Taith tua 10 milltir a phawb yn ôl yn ddiogel erbyn 3-15.

Diolch am eich cwmni difyr..

Adroddiad gan Gwen

Lluniau gan Eirwen ar Flickr