HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Llan 4 Mai

Daeth 14 o fynyddwyr – neu, gerddwyr ffriddoedd, chwedl rhai! – ynghyd ar gyfer fore cymharol braf: Siân, Sioned, Rhiannon, Clive, Gareth, Ifan, Eryl, Gareth Wyn, Iolo, Gwen Evans, Idris, Gwen Richards a Huw Myrddin.

Dechrau ar Lwybr Watkin a throi cyn cyrraedd y rhaeadrau i gyfeiriad Cwm Merch, heibio gwaith copr y Lliwedd a chael paned ar gopa Gallt y Wenallt. Er ei bod yn benwythnos gwyliau banc, welon ni neb arall tan i ni gyrraedd godrau Lliwedd Bach ac erbyn i ni gyrraedd Bwlch y Saethau, roedd hi’n dechrau prysuro go iawn.

I fyny’r llwybr serth i Fwlch Main lle roedd cyfle i rai gael hoe ac i eraill ymweld â’r caffi - a oedd newydd ailagor yn dilyn y tywydd oer - a’r copa prysur.

Ymlwybro dros Allt Maenderyn a heibio’r chwarel cyn troi am Gwm Llan a’r maes parcio.

Peint haeddiannol i rai ohonom ar y ffordd adra yng Nghapel Curig.

Diolch i pawb am eu cwmni difyr.

Adroddiad a lluniau gan Richard Roberts (arweinydd).

Lluniau gan Richard ar Flickr