HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dilyn ôl troed Darwin 2 Chwefror


Y tywydd yn braf wrth i 16 ohonom gychwyn o Ogwen tua’r Twll Du a Llyn y Cŵn. Eryl yn ein gadael yno i wneud taith sydyn tros Y Garn ac yn ôl mewn pryd i weld y rygbi. Y lleill ohonom yn anelu tua’r Glyder Fawr, a’r rhew a’r eira yn cynyddu wrth i ni ddringo. Cerdded difyr a golygfeydd ardderchog wrth i ni groesi’r Glyderau mewn gwynt main. Ymlaen tros Y Foel Goch a Gallt yr Ogof i Fwlch y Goleuni a thrwy’r gors (lle profodd Huw Myrddin werth ei getars newydd!) tua Chefn Capel ac yn ôl i Gapel Curig erbyn 4.30.

Diwrnod da iawn ac annisgwyl aeafol. Diolch i Cemlyn am drefnu ac arwain.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Arwel ag Anet ar Flickr