HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Hebog a'r Wyddfa 7 Ionawr

Diolch i bawb a ddaeth draw i Ryd Ddu i wneud penwythnos llwyddianus iawn. Diolch hefyd i Iolo am drefnu yr holl beth ac i hogia Penmachno am arwain y daith ar y Wyddfa.

I'r rhai oedd yn holi, dyma manylion taith Moel Hebog.
Hyd 12.6 km
Dringo 1427 m
Disgyn 1275 m

Faint yn uwch na Beddgelert ydi Rhyd Ddu?

Atebion i'r trysorydd erbyn ddoe os gwelwch yn dda. Gwobr o £1000 i'r ateb cywir cyntaf!

Arwel

Adroddiad gan Arwel a lluniau ar Flickr

 

Taith yr Wyddfa - 7 Ionawr

Tri Gareth (Everett, Wyn a Williams), Prys Ellis, Morfudd ac Eryl gychwynnodd i fyny'r Wyddfa gan ddilyn y llwybr tuag at Fwlch Cwm Llan cyn troi ger y chwarel i gopa'r Aran.  Gorfu i Morfudd droi'n ôl wedyn o'r bwlch yn drwm dan anwyd.  Taith di-drafferth ond gwynt oer a chryf tua'r copa.  Synnu at y sbwriel o gwmpas y caffi.  I lawr llwybr Cwellyn ond troi ar draws y gweundir (a gwas ffarm Bron-fedw yn dangos cynllun trydan dŵr i ni) i ddilyn y llwybr trwy chwarel Glanrafon yn ôl i'r pentref.

Adroddiad gan Eryl Owain
(Toedd na ddim ffotograffwyr yn ein mysg)