HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwmorthin 28 Ebrill

Criw da o 23 yn ymgynnull yn Nolrhedyn ar fore sych, heulog ond gwyntog iawn.

Fyny i Gwmorthin a throi i'r dde, fyny trwy'r chwarel i gopa Craig Nyth y Gigfran ac ymlaen i'r Allt Fawr a Foel Druman. Cinio yng nghysgod y gwynt ger Llyn yr Adar cyn nofio/snorclo lawr i Fwlch Rhosydd ac yna dringo'n raddol i gopa Moel yr Hydd. Lawr trwy chwarel Wrysgan, yn ol i'r ceir erbyn 4.30.

Diwrnod da. Diolch i bawb.

Adroddiad gan Myfyr.

Lluniau gan Myfyr a Haf ar Flickr